Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

serchog

serchog

Diffygiodd ei gorff yn araf yn y nawdegau, ond ni wanychwyd ei bersonoliaeth serchog.

Ond crwtyn serchog oedd Wil a phawb yn ei hoffi a chael blas ar ei ffraethineb annisgwyl, ac yr oedd yn ffefryn mawr gan Dic.

Cael clwt gan ambell un, ond cael ei wrthod yn amlach; cael ei wrthod yn serchog gan ambell un oherwydd gwir brinder cerrig, cael ei wrthod yn oer gan y llall, a'i wrthod yn ffals gan un arall crintachlyd.

Gwenodd yn serchog ar y dyn.

Yr oedd y siopwr yn y pentre bach yn serchog, a chyn bo hir yr oedd y ddau'n cael sgwrs ddifyr a diddorol.

Ac yntau'n ateb yr un mor serchog, os yn llai llithrig: In truth and tenderness secure, The pangs of absence I'll endure, Content to quit my bosom's queen While Honours cheers the parting scene.