Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seren

seren

Daw'r gair 'ystwyll' o'r gair Lladin am 'seren', a'r seren a arweiniodd y Doethion i Fethlehem yw'r un yr ydym yn sôn amdani.

I ymosodwr Wrecsam, Lee Trundle, ddaeth yn seren dros nos ers ymuno â Wrecsam o'r Rhyl, mae'r tymor wedi gorffen yn siomedig.

Cyn tewi, hoffwn sôn am un Americanwr arall a oedd yn seren ddisglair yn ei ddydd ac sy'n bwnc trafod o hyd: John Fitzgerald Kennedy.

Rwy'n chwilio am ôl y seren wib, ymhell wedi iddi ddiflannu o'm bywyd.

Gras, o seren fach, dyna'r unig obaith am fyw gyda dyn ar dân.

Yn ei ymosodiad ar gyfrol Ellis Annwyl Owen yn y Seren Ogleddol, cyfyngodd ei feirniadaeth i offeiriadaeth yr Eglwys Wladol, gan honni bod trefn yr eglwysi anghydffurfiol yn sicrhau duwioldeb eu gweinidogion hwy.

Sefydlodd cyfres deledu gyntaf Owen Money ar gyfer BBC Cymru, American Money, y seren o BBC Radio Wales, fel cyflwynydd teledu poblogaidd a oedd yn amlwg yn mwynhau ei hun, ac roedd Whole Lotta Money yn gyfuniad celfydd tebyg o hiwmor a cherddoriaeth roc.

Anerchiad bur, pwrpasol gan seren cyfres sebon.

Gorfodi pob Iddew yn Yr Almaen i wisgo Seren Dafydd felen.

Mae'r ymateb a fu i Seren Wen ar Gefndir Gwyn a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1992 yn rhan o chwedloniaeth llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar.

Sawl seren sydd i'w gweld?

Nid oedd newid sylfaenol yng nghyfeiriad meddwl Hugh Hughes yn ei ysgrifau maith yn y Seren Ogleddol, felly, ond yn sicr yr oedd ei bwyslais yn dechrau symud o'r ymosodiad cyffredinol ar berthynas yr Eglwys a'r wladwriaeth, tuag at un agwedd arbennig ohono.

fe'i galwyd yn gampwaith ac yn glasur bach cystal â seren wen'.

Seren gynffon Hayley yn ymddangos ar ei thaith sydd yn dod â hi i gyffiniau'r ddaear bob 75 mlynedd.

Darganfu seryddwyr, wrth ddefnyddio telesgopau grymus, mai'r seren ddis- glair agosaf wedi'r haul yw Alffa Centawrws, a bod y goleuni oddi ar ei hwyneb yn cymryd dros bedair blynedd i gyrraedd atom.

Ychydig o ddatblygiad syniadol oedd yn y llythyron gyhoeddodd Hugh Hughes yn ei erbyn yn y Seren Ogleddol o'u cymharu â'i ysgrifau yn Seren Gomer bum mlynedd yn gynharach, ond cafodd le yn ei bapur ei hun i'w hegluro'n llawn ac yn fanwl.

Ymhlith ei nodweddion y mae'r ffaith ei fod yn teimlo mai ef yw seren y gêm ac o ganlyniad mae'n sicrhau bod ei wisg bob amser yn drwsiadus.

Mae'r Athro Glanmor Williams wedi dadansoddi'r helyntion hyn yn fanwl (yn Welsh Reformation Essays) a dangos sut y cafodd rhai ohonynt sylw yn y llysoedd, Llys Mainc y Brenin, Llys yr Ychwanegiadau, Cyngor y Gororau, y Sesiwn Fawr a Llys y Seren.

Y mae gwacter bythol yma megis pan gipier dyn o'i hynt gartrefol...Caeais y drws gan wybod na chawn ymwared o Seren byth.

Tua'r Nadolig, gan nodi'n fanwl y dydd o'r mis, wedi iddi nosi ac i'r sêr ddod i'r golwg, aeth i weirglodd Ty'n y Gilfach, gan ddwyn polyn gydag ef, a gosododd y polyn mewn llinell unionsyth â simnai y tŷ a rhyw seren sefydlog yn y gogledd.

Rhaid cofio fod gwrthrychau'r sgrîn fach, fel y "seren wib," yn digwydd ac yn darfod yn rhy gyflym i adael argraff barhaol.

Yn yr un flwyddyn, fe gafodd ardaloedd Capel Curig a Beddgelert eu trawsblannu i China dros dro wrth i Ingrid Bergman, seren Casablanca, ddod draw i Eryri i bortreadu'r genhadwraig Gladys Aylward yn The Inn of the Sixth Happiness.

Maen nhw'n dweud mai'r stori fer yw seren wib llenyddiaeth.

Dywedir yn aml mai papur Caledfryn oedd Y Seren Ogleddol ond, er mor sylweddol ei gyfraniad iddo, nid yw hyn yn gywir.

Yn Pwy Sy'n Cofio Siôn? cawn hanes Leni, cyflwynydd radio ifanc, sy'n gobeithio cychwyn gyrfa lwyddiannus wrth fynd ar drywydd y seren bop Siôn Tremthanmor.

Y mae'r amser sy'n angenrheidiol i fywyd ddatblygu yn ffracsiwn uchel o oes seren fel yr Haul, felly os yw'r adweithiau cemegol yn rhy araf ni fydd bywyd ond prin wedi dechrau cael ei sefydlu pan ddaw ei ddiwedd sydyn yn sgil marwolaeth yr Haul.

Cafodd sawl bluen i'w het drwy sicrhau yr unig gyfweliad a roddodd y seren o Hollywood, Keanu Reeves, yn Ngwyl Glastonbury ynghyd â sgwrs brin gyda Syr Cliff Richard.

Rhoddodd Siân Phillips fyd y seren Marlene Dietrich i'r naill ochr i chwarae rhan unigryw yn The Magicians House, sef drama prynhawn dydd Sul hudolus i blant.

Digwyddiad, nid anniddorol ac nid llenyddol ddibwys o bell ffordd, oedd ei ddarganfyddiad o darddiad un o ganeuon adnabyddus Islwyn--"Seren Heddwch".

A hithau'n prysurlyfu, byddai Seren â'i llygad arnoch fel petai'n edrych ymlaen at ddechrau arnoch chwi.

Yng nghanol mwynder Maldwyn, mae pentrefwyr Llanrhaeadr ym-Mochnantyn mwynhau'r sylw sydd wedi dod i'r ardal yn sgîl The Englishman Who Went up a Hill and Came Down a Mountain, ffilm newydd Hugh Grant a ddaeth yn seren dros nos ar ôl Four Weddings and a Funeral.

Pan ddaeth ati ei hun gwelai belen wen gwallt ac wyneb pryderus ei thad yn plygu drosti ac yn dal ei phen yn ei ddwylo a chlywai ei lais o bell: 'Fy seren, o fy seren!

Mona sy bellach yn hawlio'r llwyfan ac yn meimio'r gan a gwel Tref hi drwy wydrau lledrith fel seren.

Dangosodd tîm cynhyrchu adloniant BBC Cymru ei allu i gynhyrchu sioe stiwdio gerddoriaeth a sgwrs gyda seren fawr o fyd y theatr gerddorol.

Os haul yw pob rhyw seren sy'n gwibio yn y ne' Os cylch y rhain mae bydoedd, a lloerau'n cadw eu lle, Od oes trigolion ynddynt, neu ynte nid oes un, Y cwbl oll a grewyd gan fysedd Mab y Dyn.

Ymhen wythnos neu ragor, elai i'r weirglodd, a hi yn nos a'r sêr yn y golwg, a byddai raid symud cwrs ar y polyn i'w gael ar linell y simnai a'r seren.

Ysgogwyd y tri i sefydlu'r Seren Ogleddol gan newid a ganfuwyd ganddynt ym mholisi golygyddol Seren Gomer, llais y Radicaliaid yn ystod y pymtheg mlynedd flaenorol.

Y mae'n sefyll yn llinach Radicaliaeth Cymreigyddion Llundain a gyrhaeddodd genhedlaeth Caledfryn a Samuel Roberts, Llanbrynmair, drwy'r Cymro ac ysgrifau Hughes yn Seren Gomer.

'Buon ni farw'n ôl yn y gofod, yn nhrobwll y seren ddu,' meddai Non yn fyfyriol.

Nid posibl cuddio na rhagoriaethau na diffygion Seren.

Eithr wrth ollwng Seren o'i haerwy byddai'n rhaid gwylio'i chyrn.

Gwthiodd Seren lawer het ffelt galed dros glustiau coch gwladaidd y diwrnod hwnnw.

Y tebygrwydd yw fod llawer o'r ysgrifau golygyddol, dienw, yn y Seren yn gynnyrch cydweithrediad Hughes, J. T. Jones a Chaledfryn.

Roedd ganddynt bapur newydd Cymraeg, "Seren y Dwyrain".

Ar hyn o bryd dim ond pedwar gwesty pum seren sydd yma sy'n cymharu'n sâl iawn â Dubai.

Gyda phawb sy'n dod ar y penwythnos yn aros yng ngwesty pedair seren Jury's ynghanol Caerdydd bydd amser rhydd yn cael ei neilltuo ar gyfer mymryn o siopa Nadolig yn y brifddinas yn ystod yr ymweliad.

Yna arafodd yn sydyn wrth yr agoriad - ond nid yn ormodol - a diflannod fel seren wib rhwng y creigiau duon.

'Mor frwd meddai Puleston Jones yn Y Seren wrth adrodd gweithgareddau'r cyfarfod cyntaf, 'mor frwd ydyw yr yspryd Cymreig yma ar hyn o bryd, fel y dywedir i un brawd o ganol brysurdeb paratoi at ei arholiad ddiweddaf, roi un bore ar ei hyd i astudio prydyddiaeth Gymreig Gwn ddarfod i un arall ddarllen gweithiau barddonol Goronwy i gyd bron mewn un diwrnod" "Chwi synnech', meddai eto wrth adrodd am gyfarfod diweddarach, 'mor gyflawn o addysg ydyw papurau fel hwn (sc.

Eithr am yr hen Seren yma...Gwir bod ei hanadl mor bêr â gwair, a'i blew fel sidan coch cynnes; ond yr oedd ei llygaid mor eiddgar â'i thafod.

Mae hyn ychydig yn well na'r disgwyl ond ni ddewiswyd seren taith Y Llewod i Dde Affrica bedair blynedd yn ôl, Scott Gibbs, canolwr Cymru ag Abertawe.

Daeth Seren a minnau i'r dref wrth ddau ben tennyn.

Yn anffodus, nid wyf yn cofio cael y profiad o weld seren wib ond byddwn yn dychmygu, er mor fyrhoedlog y profiad, y byddai'n gadael ei ôl arnaf.

Ategwyd y farn honno gan T. Madoc Jones, caplan a golygydd Seren y Dwyrain, y papur a gyhoeddwyd yn Cairo.

Os gwelsoch eog ryw dro yn plygu'i ben at ei losgwrn, ac yna yn ymsythu'n sydyn a hedfan fel saeth tros y gored, fe wyddoch sut y byddai Seren yn cyrchu rhyddid y clos.

Gwyddom bellach nad yw ein seren ni (Yr Haul) ond yn un o filiynau o ser sy'n ffurfio galaeth enfawr - Y Llwybr Llaethog.

Y noson honno enillodd soprano 24 oed, Karita Mattila o'r Ffindir, a roeddem yn dyst fod seren newydd yn esgyn i ffurfafen y byd opera.

Prif arf ymosodiad y Seren Ogleddol ar yr Eglwys Sefydledig oedd cyfres o erthyglau a ysgrifennwyd gan Hugh Hughes ar ffurf llythyron at y Parchedig Ellis Annwyl Owen.

Does dim siopau yma i'w cymharu â gwleddoedd Dubai ond mae'r ardal yn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda phum gwesty pedair a phump seren ar y gweill dros y flwyddyn nesa.

Ond fe allai Seren roi ergyd yn ôl a'ch syfrdanai.

Mae cyn-seren y gêm rygbi 13, Ellery Hanley, yn ymuno â thîm hyfforddi carfan rygbi undeb Lloegr ar gyfer y paratoadau am y gemau yn erbyn Awstralia, Ariannin a De Affrica.

Sêr o genhedlaeth wahanol a ddathlwyd yn The Silver Screen - tri o sêr mawr Cymru o fyd y ffilmiau: Rachel Roberts, Stanley Baker a Ray Milland - tra roedd Bright Smoke yn bortread o Michael Sheen, seren newydd y theatr yng Nghymru.

Madoc Jones, caplan a golygydd Seren y Dwyrain, y papur a gyhoeddwyd yn Cairo.

Er enghraifft Carmen Ejojo, seren Loves Labours Lost yn ansicr, medda hi, ai ar ôl opera Bizet y cafodd ei henwi ynteu ar ôl y rolars gwallt, Carmen.

Os dowch ar eich hynt yn y gwanwyn fe welwch seren y gwanwyn yn garped piws golau yma, planhigyn eitha prin yngh ngogledd Cymru.

A pha laethwr ffyddiog a allasai wrthsefyll y fath ben a chroen a phwrs - holl deithi amlwg Seren?

Y mae tystiolaeth naws, tymer ac arddull y Seren Ogleddol, yr un mor bwysig.

Pan fydd seryddwyr yn edrych trwy delesgop ar Alffa Cen- tawrws, gwelant oleuni a adawodd y seren bedair blynedd yn ol.

Ond tybed ai dyma'r unig fwynhad a gâi'r darllenwyr wrth flasu'r stori hon (a ymddangosodd gyntaf yn Seren Gomer) am ddrychiolaeth go gnawdol ei dueddiadau:

Pan oeddwn yn hel y Flodeugerdd methais innauchael 'Seren Heddwch' yn unman ond yn 'Caniadau Cymru'.

Ond ni wyddai Seren y bore hwnnw fod ei rhyddid i'w ymestyn am ddeng milltir hir hyd Gastell Newydd Emlyn.

mae'r llyfr hefyd yn tanlinellur hyn rydyn ni i gyd yn ei wybod yn barod - fod Cerys yn seren hollol unigryw, er fod hi'n cael ei chymharu â phob cantores ers degawdau, o Janis Joplin i Debbie Harry.

"Pethau celyd a llymion a ddywedid flyneddau yn ol yn y Seren am yr eglwys wladol, ac wele wr Llen tan yr enw 'Gwr lleyg', a ddaeth i'r maes yn rhyfeddol hyf a gorchestol i'w amddiffyn; ond cyn pen hir efe a ddychrynodd ac a synodd, a ofidiodd ac a gywilyddiodd, ac a ddiangodd, gan rym ei wrthwynebwyr, a'r holl edrychwyr yn chwerthin, a'r holl eglwyswyr yn cnoi penau eu bysedd".

Hynny yw, gellir ei gadw yn y ddalfa ar sail drwgdybiaeth yn unig.Seren Wib - Eigra Lewis Roberts (tud.

Ti yw ei 'seren'.

Mi wn lle mae'r Sosban Fawr a'r Sosban Fach a gwn hefyd sut i ddilyn cyrn yr Arad i ganfod Seren y Gogledd, a dyna'r cwbl.

Bydd galaeth fel hon yn ymddangos yn fach iawn, a bydd yn hawdd ei chamgymryd am seren unigol.

Gwadu y cyhuddiad a wnaeth golygydd newydd Seren Gomer; "Egwyddorion ein Cyhoeddiad a gadwyd hyd yma yn ddilwgr", meddai, ond defnyddiodd Seren Caernarfon enghraifft gohebiaeth Hughes ei hun yn Seren Gomer ar fater yr eglwys wladol er mwyn profi ei bwynt:

Yn rhifyn mis Ebrill o'r Seren Ogleddol cyhoeddwyd nodyn yn cyfeirio at anghydfod yn nhref Caernarfon a fyddai'n arwain at ymadawiad disymwth allanwr arall, Josiah Thomas Jones, o'r dref.

Yn gymysg â hyn oll yr oedd yn ysgrifennu llithoedd i bapurau newydd yng Nghymru, Y Goleuad a Seren y Bala, a thrwy'r llithoedd hynny, yn hytrach na thrwy gymrodoriaeth Coleg Lincoln, yr oedd llwybr ei fywyd ef yn arwain.