Mae Serena Williams eisoes trwodd i'r rownd gyn-derfynol ar ôl curo ei chyd-Americanes, Lisa Raymond, 6 - 2, 6 - 0, y prynhawn yma.
Yn rownd gyn-derfynol y merched yn Wimbledon heddiw, bydd y chwiorydd Williams, Venus a Serena, yn wynebui gilydd ac enillydd y llynedd Lindsay Davenport yn chwarae yn erbyn Jelena Dokic - sydd ddim ymhlith y detholion.
Rownd wyth olaf y merched sydd heddiw - Lindsay Davenport yn wynebu Monica Seles, Martina Hingis yn erbyn Venus Williams, Serena Williams yn wynebu Lisa Raymond a Jelena Dokic yn erbyn Magui Serna.
Bydd hi'n frwydr hanesyddol rhwng Serena a Venus Williams yn rownd gyn-derfynol Wimbledon yfory ar ôl i Venus guro Martina Hingis mewn tair set a Serena drechu Lisa Raymond mewn modd tipyn mwy cyffyrddus.