Toc, clywn siffrwd traed yn tuthian ar draws y leino o'r tu ôl, ac yn sydyn dyma drywaniad yn serio drwy fy meingefn, ac ar yr un eiliad yn union y meddyg yn bloeddio 'Sori!' Rwy'n barnu mai honno oedd y boen corff fwyaf dirdynnol a brofais erioed.
Hongiai ei wallt yn rhacs llwyd dros ei glustiau, ond roedd cylch moel ar dop ei ben, fel mynach, neu fel petai UFO wedi glanio yno rhywbryd ac wedi serio'r tyfiant ar ei gorun.