Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

serth

serth

Er enghraifft, gwelir llawer o graig noeth yn y golwg, ac y mae'r llethrau i gyd yn reit serth.

Mae'r bobl ar fin y dŵr ar draeth tywod, tu fewn i ffrâm o greigiau serth ac awyr, yn cael eu cyfleu â phalet ysgafn, syml lle mae shiapiau'r lliwiau wedi eu cyfosod i greu delwedd.

Yr oedd yn debyg i amffitheatre enfawr, y gwaliau'n disgyn yn serth i grombil y mynydd, a'r llawr yn bentwr o gerrig, rhai ohonynt yn dwyn staen goch a melyn lle'r oedd nwyon cuddiedig Vesuvius wedi bod yn ffrwydro'n ddiweddar.

Rhaid gwylio a oedd cerbyd yn dod i lawr gan na allai fynd heibio i ni, - roedd dyfnder mawr ar un ochr a chraig serth yr ochr arall.

Daeth at dro yn y twnnel wrth i'r grisiau fynd yn fwy serth.

Sylwer fod y graig Trias yma yn cynnwys darnau mawr o gerrig sy'n profi fod llif mawr o ddþr wedi gwthio'r cerrig yn sydyn ar draws yr anialwch sych i lawr ochr serth math o wadi.

Llyfnhawyd yr ochr uchaf ac fe blyciwyd darnau'n rhydd o'r ochr isaf, serth, gan rym anorfod y rhew.

A'i lais yn fflat a diemosiwn, canolbwyntiai ar geisio cadw'r car rhag gwyro oddi ar ffordd gul, droellog ar hyd yr arfordir a disgyn dros y clogwyn serth i'r môr.

Clywais rywun yn dweud unwaith fod llethrau'r cwm lle saif Pontycymer mor serth nes bod modd i drigolion y naill ochor ysgwyd llaw â phreswylwyr y tai ar yr ochor arall.

Ac fe gefais gyfarwyddiadau - manwl; pwy ffordd i'w dilyn allan o Langolwyn, troi i'r chwith wrth eglwys y Santes Fair, a dilyn y ffordd fawr am ryw ddwy filltir, troi oddi ar honno wedyn wrth westy'r Tarw Du, a dilyn y ffordd gulach i fyny'r llechwedd; troi heibio talcen capel Methodus a dilyn ffordd y chwarel garreg galch; yna, ar grib rhiw go serth, ac yng nghanol y wlad yr oedd Trem Arfon.

Gellir gweld ogof Lloches Lewsyn yn y graig lefn sy'n codi'n serth o'r dþr ar ochr ddwyreiniol Llyn Cerrig Llwydion Isaf ond rhaid cymryd gofal wrth fynd ati gan mor ddwfn ac iasoer yw'r dþr yn y fan honno.

Trowyd ffriddoedd serth a'r ucheldiroedd yn borfeydd bras, traenwyd y corsydd, plannwyd miloedd o erwau o goed bytholwyrdd felly collwyd cynefinoedd gwyllt, - y coedlannau derw a'r rhosydd a'r grug, a hefyd yr arferion hynafol a ganiataodd i laweroedd o blanhigion ac anifeiliaid ffynnu mewn cydberthynas â dyn.

Roedd y ffordd i'r dref yn serth iawn ac roedd y lori'n mynd yn gynt ac yn gynt.

Ymestynnai'r canghennau'n fwa ar draws y ffordd ac yma ac acw dyma ddibyn serth neu graig ddanheddog yn ymddangos rhyngddynt, yn union fel rhyw anifail gwyllt.

Mae'r graig wedi'i naddu'n glogwyni serth mewn sawl man wrth wynebu ymosodiadau'r lli ers canrifoedd maith.

Dwyf i ddim yn siwr pwy oedd yn mygu fwyaf, ai'r injian LMS yn pwffian i fyny'r 'cutting' serth ger Trewyn Bach neu fi gyda fy 'Churchman's No.

Gan roi'r lori mewn gêr is dechreuodd ddisgyn lawr y rhiw serth tua'r dref.

Fy nheimlad i ynghylch 'Dwy Gerdd' bob amser (hyd yn oed pan astudiem Cerddi yn y Chweched Dosbarth yn Nhytandomen, newydd gyhoeddi'r llyfr) yw mai ei man cychwyn, ei hysmudiad sylfaenol fu serth a rhyw fath o fethiant a fu ynghylch hynny.

Llusgwyd Myrddin a Geraint fel dwy sach o datws i fyny ac i fyny grisiau cerrig serth nes roedden nhw'n brifo i gyd erbyn cyrraedd y brig.

Yn fuan wedi i greigiau Blaen Rhestr ymddangos ar y dde bydd y ffordd yn plymio'n sydyn i ryw bantle cyn ailgodi'n serth yr ochr draw; dyna Fwlch y Clawdd Du.

Llifa tua'r de ar draws wyneb tonnog dwyrain Môn, ond pan gyrhaedda Landegfan mae'n dilyn llwybr llawer mwy serth, ac o ganlyniad, i'r de o Felin Cadnant, mae'r afon yn dilyn llwybr dyfnant sydd ag ymylon serth iawn iddo.

Heddiw mae gweddillion ymylon y ceudwll hwnnw i'w gweld mewn hanner cylch o glogwyni sy'n codi'n serth dros fil o droedfeddi o'r môr.

Aiff Trefor a'i dri mab gartref at eu mam, Nia, a'i hail ŵr, Dave: lleolir eu tŷ mewn rhes o dai ar fryn serth sy'n anelu am i lawr; mae Dave yn ddi-waith a dygir y fideo a'r soffa oddi arnynt fesul un.