Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seryddion

seryddion

Gwylio a deall y sêr Er ei bod hi'n bosib gwylio'r sêr gyda dim mwy na llygaid ac amynedd, mae seryddion wedi dysgu llawer mwy ers i Galileo droi ei delesgop ar y wybren uwchben am y tro cyntaf a gweld pethau nad oedd yn bosib eu gweld gyda'r llygaid yn unig.

Defnyddio camerâu electronig Yn y degawd diwethaf mae camerâu electronig wedi disodli platiau ffotograffig fel y ffordd mae seryddion yn cofnodi'u delweddau.

Pan ddatblygwyd ffotograffiaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd seryddion fodd i gymryd lluniau hir o ddelweddau gwan iawn, a darganfuwyd nifer o bethau newydd oherwydd y datblygiad hwn.

Mae seryddion cyfoes yn defnyddio pob math o offer i'w galluogi i ddarganfod a deall mwy a mwy o gyfrinachoedd y bydysawd.

Cyn datblygu ffotograffiaeth edrychai seryddion ar y ddelwedd a gwneud llun llaw ohono â phapur a phensel.

Mae dealltwriaeth seryddion wedi datblygu o'r cyfnod cynnar pryd yr oedd yn rhywbeth a seiliwyd yn bennaf ar ofergoel i amser Galileo a Newton, yn yr ail ganrif ar bymtheg, pan roddwyd seryddiaeth a gwyddoniaeth yn gyffredinol ar sail 'gwyddonol', sef cymharu, arsyllu ac arbrofi.