'Mae'n rhy bell o stafell y Wasg i'r seti, mae'n rhy anodd cyrraedd iddyn nhw.
Reit, cariad?' 'Diolch i chi.' Erbyn i Ifan Ifans gyrraedd yn ôl at y bus lledorweddai morwyn Tyndir ar un o'r seti croesion a'i chyntafanedig yn gorffwys ar ei dwyfron.