Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

setiau

setiau

Nid oes ar blant ddim angen setiau cemeg drud na chemegolion peryglus er mwyn dechrau ymchwilio i egwyddorion gwyddonol cadarn.

'Roedd y bardd yn cydnabod oes y 'never had it so good' yng nghanol y pumdegau pan welwyd y pum miliwn o setiau teledu ar aelwydydd Prydain yn dyblu mewn degawd, a phan ddaeth y car yn hanfod yn hytrach nag yn foethusrwydd.

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Bu noson yng Nghlwb Nos yr Octagon / Bliss ym Mangor gyda pherfformiadau byw gan Ap Ted, Maharishi, Topper ac Anweledig, a phob un o'r setiau yn wych.

Ond yn union fel y mae angen y golygfeydd, y setiau a'r actorion eraill ar y rhan fwyaf o berfformiadau theatr i gadw diddordeb y gynulleidfa, felly y mae angen pob cymorth posibl ar y rhan fwyaf o athrawon a darlithwyr i ennyn diddordeb eu dosbarthiadau - yn arbennig mewn pwnc lle tuedda pynciau i fod yn gymhleth ac yn amhosibl eu datrys, yn ôl pob golwg, ac sydd hefyd mor wahanol i'n problemau ninnau yng Nghymru yn yr wythdegau.