Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sewin

sewin

Mae cytundeb rhwng pysgotwyr sewin a biolegwyr/naturiaethwyr fod gwahaniaeth rhwng pysgodyn yn 'bwydo' a physgodyn yn cymryd ambell i gegaid.

Pysgota dau ddimensiwn yw pysgota sewin yn y nos.

Fy rheswm dros ddibynnu ar y plu yma yw fod yr Arian Glas yn bluen oleu a'r Ceiliog Hwyaden Corff yn dywyll Beth bynnag fydd amgylch lliw gwiniadau'r tywydd a ffansi'r sewin mae'r ddau ddewis nawr gennyf ar yr un blaen llinyn.

Prawf o effaith y clasur hwn yw nad oes dorlan afon sewin ym Mhrydain lle na chlywir jargon Falkus

Salmo trutta - brithyll môr - sewin - gwyniedyn - penllwyd- brych y dail.

Rhoes clec sewin yn syrthio'n ôl wedi ei naid sbardun i ni roi'r gêr efo'i gilydd.

Pysgod anwadal yw'r sewin.

Dyma hufen pysgota sewin gan rai pysgotwyr.

Os gadewir yr awr fawr yn rhy hwyr, bydd cyfnod yr 'hanner cyntaf' pan chwery'r sewin ar yr wyneb gan gymryd ambell bluen ar lein nofio (floating line) wedi darfod.

Teimlwn y sewin yn tynnu a phlycian fel ci anniddig wrth gortyn.ym mherfeddion y pwll.

Ni fuasai pawb yn cytuno â'm dewis gan fod detholiad dirifedi o blu sewin ar gael, rhai wedi eu dyfeisio at wasanaeth pysgotwyr lleol.

Os ydych am astudio hanes naturiol y sewin, a dilyn y gwahanol ddamcaniaethau sut i'w ddal, yna llyfr Hugh Falkus yw'r beibl.

Dro arall - wam - ac y mae'r sewin yn sownd a'r pwll yn drochion i gyd!

Yng ngolau'r ffaglen gwelais y sewin crand.

Cymryd ambell gegaid wna'r sewin - o barchus goffadwriaeth reddfol am bantri llawn y môr!

Roedd wedi darllen yn Fishing Fantasy, gan Capten Jac Hughes-Parry o Langollen gynt, fod sewin yn cymryd pryf genwair yn oriau'r nos.

Cyfaddefaf fy nyled i'r pysgotwr/naturiaethwr enwog - mae fy helfeydd wedi cynyddu ers i mi astudio ei lyfr a'i addasu i'r afonydd lle y pysgotaf am sewin.