Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgerbwd

sgerbwd

Sgerbwd o le yw sgubor rhwng dau dymor fel hyn.

"O'n i'n gobeithio y basa'r sgerbwd wedi sefyll am ddyddia' ond mi hitiodd hen siel Almaenig o yn ei gefn a'i chwalu."

Yno y diflannai am oriau, yn blentyn, i hongian ar iet yr ardd, ac i smalio gyrru car mewn sgerbwd hen dractor rhydlyd.

Nid oedd hi fawr mwy na sgerbwd; yn hollol analluog i weithio, neu hyd yn oed i fyw'n gyfforddus, ac ni ellid gwneud dim i'w helpu.

Mae Orig yn baglu ac yn cusanu'r ddaear ar ôl syrthio'n erbyn rhyw sgerbwd wifrau, Smwt yn codi trywydd cwningen neu wiwer, a phawb ohonom yn ei ddilyn fel ffyliaid!

Bu Bro Gþyr yn gartref i ddynion ers cyn hanes ac mae'r sgerbwd a ddarganfuwyd yn Ogof Pafiland yn profi fod dyn wedi trigo yma am o leiaf ddeunaw mil o flynyddoedd, sef ers Oes yr Ia!

Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.