Ar yr wyneb, fe fydd y filltir neu ddwy nesa' trwy fideoland Sgiwen yn cadarnhau rhagfarnau: Does yna ddim byd o werth yng Nghwm-nedd heblaw am y rygbi - a byddai Crysau Duon Gareth Llewelyn yn glwb ceiniog a dime heblaw am gyfraniad ffermwyr ifanc cyhyrog Cymraeg o sir Benfro.
Cafodd rhai o'r Tseineaid y tu allan i'r gwersyll ganiatâd i anfon ychydig o fwyd a ffrwythau i ffrindiau y tu mewn, ac ymhlith y rhai a dderbyniai ambell ffafr o'r fath roedd swyddog o'r enw Capten Lewis, a oedd yn enedigol o Gwrt-y-Betws, Sgiwen, ac nid anghofiaf byth ei garedigrwydd tuag ataf yn rhannu â mi o'i ychydig prin.