Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sglein

sglein

Siopau disgownt, bwytai Indians di-sglein, tai teras sydd wedi gweld dyddiau gwell - fe fyddwch yn eu pasio i gyd cyn cyrraedd canol tre' Castell-nedd.

Os na fydd y Cynulliad yn weithredol ddwyieithog, fe fydd hyn yn gyfiawnhad pellach i gyrff eraill barhau i weithredu yn Saesneg a rhoi sglein dwyieithog ar gyfer y cyhoedd.

Ymhyfrydai mewn llawer o bethau, a bydd amryw yn cofio am y sglein gwbl arbennig ar y brasses ar harnes y gaseg.

Roedd Planet Max hefyd yn llwyddiant anhygoel gyda'r diddanwr bytholwyrdd yn profi nad yw amser yn pylu sglein.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Yn hytrach, yn ogystal â mân swyddi y tu allan i'r tū, byddaf hefyd yn rhoi help llaw i gadw'r lle yn dwt o'r tu mewn, megis dilyn hwfar fel dilyn ci gwyllt, polishio'r darnau pres a rhoi sglein sbesial ar fwrdd a chadair a chwpwrdd.

Ond na, erbyn meddwl, fe ddylai o brynu ffon, un a thipyn o sglein arni, i fynd gyda'i het newydd.

Glaw mân yn rhoi sglein ddwys ar y Rhyl.

Roedd cymylau duon dyledion ar y gorwel a chryn dipyn o'r sglein wedi mynd oddi ar y geiniog felen, safon arian N'Og ers teyrnasiad Braianllwyn Dew.

Roedd ei frest binc bron a'n dallu, a'i gorun du a rhyw sglein arbennig arno.

Ni welir sglein yr hysbysebwr a'r cynllunydd ffyniannus ar hon.

O bell, mae'n debyg yr atgoffid rhywun o'r cynbrifweinidog Lloyd George, Dewin Dwyfor, namyn sglein Westminster wrth gwrs, a namyn y joie de vivre cynhenid hwnnw ddaw o fod wedi eich magu ym Mhen Llūn.

Ac yn y pen arall, y ferfa ysgafn, handi, yn baent ac yn sglein i gyd ac yn symud ar le glas heb ddim ond sūn yr echel yn troi yn ei saim.