Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgleinio

sgleinio

A golau cochlyd y wawr yn sgleinio ar ei wyneb ac adlewyrchiad y goleuadau blaen yn disgleirio'n wyn yn ei lygaid ymddangosai fel y diafol ei hun, meddyliodd Gareth.

Cartref bach difalch ydoedd, ond yr oedd y dodrefn yn sgleinio efo ol cŵyr.

Rhus toxicodendron yw'r eiddew wenwynig - efo deilen fel meillion yn sgleinio o goch - ac os cyffyrddwch â nhw mae'r dolur yn waeth ac yn ffyrnicach na'n danadl poethion ni - ac yn cymeryd amser hir i leddfu.

Dangosodd Cathyr yr holl offer soffistigedig oedd ar y dec i Anna, yn glociau mawr cyflymder, cwmpawdau electronig a'r offer hunan-lywio, y cyfan yn sgleinio fel sylltau.

Gwisgai drywsus ac anorac ddu - dillad oedd yn sgleinio fel y moto beic a safai ar ei stand yng nghanol y garej fel anghenfil mawr yn barod i lamu i'r nos.

fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.

Y sgwrio a'r sgleinio, a mynd dros bob dodrefnyn yn nhŷ anti efo cŵyr ac eli penelin!

Wrth edrych lawr fe fuasech chi'n gweld yr iâ'n sgleinio yn yr haul, yna fe fuasech chi'n sylwi ar rywbeth yn symud arno.

yn fwy bygythiol nag arfer am ei fod yn sefyll mor llonydd a'r golau egwan yn sgleinio mor oeraidd ar fetel ei ysgwyddau llydan.

A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.