Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sglodion

sglodion

Onibai i Wil Twmpath gael ei hudo i Wlad N'Og ar ei ffordd o ffair sglodion Capel Tarsis gyda llathen o wynwyn dros ei ysgwydd - bargen o stondin gynnyrch Mrs Harris y Gweinidog - mae'n amheus a fyddai pethau wedi digwydd fel y gwnaethont.

Ar ôl sglodion a pheint yn Rose Lane amser cinio ddydd Sadwrn, byddai'n amser i fynd draw am y gêm.

Dyna fy hen gyfaill y diweddar J. W. Jones, Tanygrisiau, a ysgrifenai'r "Fainc Sglodion" i'r "Cymro% erstalwm, yn un; gūr a chanddo lygad am lyfrau prin, llyfrbryf wrth natur - ac un caredig iawn at hynny.

Er i ni wadu, roedd yn rhaid iddo chwilio'r bws am fod bwyta sglodion ar y bws yn erbyn rheolau'r cwmni, medda fo.

Anodd oedd troi tuag adref ond roedd yr addewid am sglodion yn y Borth yn ei gwneud yn haws.

Dylid osgoi fel y pla unrhyw datws wedi eu paratoi yn barod, megis sglodion wedi rhewi a phowdwr i wneud stwns tatws, er eu hwylused.

Y cam nesaf oedd i'r gyrrwr ein cyhuddo o fwyta sglodion tatws ar y bws oherwydd dychmygai fod arogl sglodion yn yr awyr.

I'w wneud rhaid oedd cymryd sglodion ffres o'r dderwen a'u golchi â dŵr rhedegog nes bod y rhinwedd wedi ei olchi allan ohonynt.

Roedd botwm rheoli'r ffwrn ar y wal, ac ar y nos Sadwrn arbennig hon, mi ês ati i baratoi stêc a sglodion i'r ddau ohonon ni.

Bydd y penwythnos yn cynnwys pryd canol dydd o sglodion a physgod gyda Mrs OTT (GILLIAN ELISA), cinio'r hwyr gyda'r cogydd, DUDLEY NEWBERY a thaith o gwmpas Stadiwm y Mileniwm yng nghwmni RAY GRAVELL.

Erbyn iddynt fwyta eu sosej a'u sglodion a'u hufen iâ bob tamaid a mynd i'r lle chwech efo Owain ac i'r ystafell newid clytiau efo Guto, roedd awr a hanner wedi mynd heibio er pan adawsant y car, ac yr oedd Carol ar bigau'r drain yn poeni am Emyr ar ei ben ei hun yn tŷ yn pryderu amdanynt hwythau.

Hefyd roedd nifer o fasgedi yn cynnwys cig iâr a sglodion ar fwrdd yn y gwesty, yn barod i'w dosbarthu a neb yn cadw llygad arnynt.

Y gwir oedd nad oedd sglodion gennym o gwbl.

Cofiodd yn sydyn nad oedd wedi cael ei ginio a dechreuodd y dŵr redeg rhwng ei ddannedd wrth iddo feddwl am sglodion Mam yn frown-felyn ar y plât o'i flaen.

Beth felly am bysgod a 'sglodion?

Trwy baratoi dysglaid fach o salad i'w fwyta gyda'r pysgod a'r 'sglodion gellir sicrhau pryd sy'n weddol gyflawn a chytbwys o ran maeth.

Dylid defnyddio olew llysiau i goginio'r pysgod a'r 'sglodion yn hytrach na brasterau trwythedig megis lard a margarin.

Fel hyn gall pysgod a 'sglodion fod yn bryd eithaf maethlon ac yn sicr yn llawer gwell na rhai siop.

Fel y disgwyliasai pwy oedd yno wrthi ond ____, wedi llifio nifer mawr o glytiau a phentwr o sglodion ar y fainc.

'Ti isio bwyd?' 'Jest te.' 'Mi gei di jips a ffish hefyd rhag ofn i chdi udo'n bod ni wedi dy lwgu di.' Daeth y sglodion a'r sgodyn yn fôr o saim mewn papur newydd.

Y farn gyffredinol oedd ei fod wedi cael rhywbeth i'w fwyta ar ôl i arogl y sglodion godi chwant bwyd arno.