Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sgorio

sgorio

'Mae bob amser yn neis sgorio cais, ond 'sdim ots da fi pwy sy'n sgori'r ceisiau.

Cymrodd hi chwarter awr arall i Gymru sgorio eto - Alan Bateman yn torri drwy amddiffyn America a rhyddhau ei gapten Mark Taylor i groesi.

Ond mae'n rhaid i ni ddechrau sgorio, hefyd.

Buasai chwaraewyr 1981 yn fodlon ar berfformiad neithiwr wrth i Abertawe sgorio chwe gôl - ond o flaen torf dila.

Sgoriodd Chris Watkins bedair gôl Llanelli, ac fe llai yn hawdd fod wedi sgorio mwy.

Yn Matara mae Lloegr wedi sgorio 146 am ddwy wiced yn eu batiad cyntaf yn erbyn Tîm Llywydd Bwrdd Criced Sri Lanka.

'Y teimlad o'n i'n gael oedd na fysen nhw ddim yn sgorio er bod hi'n agos iawn.

am yr ail sadwrn yn olynol bydd wrecsam yn teithio i swydd efrog gan ymweld a huddersfield town tîm sy'n ei chael hi'n go anodd i sgorio gartref.

Ffrainc sydd drwodd i rownd derfynol Euro 2000 ar ôl i Zinedine Zidane sgorio o'r smotyn ym munudau ola yr hanner awr ychwanegol.

Aethai unwaith yn yr hanner cyntaf, ac ar ôl y gôl gosb a chael pas Moon o ryc, gwelodd ei gyfle a gwibio trwy'r bwlch i sgorio ar y chwith.

Cyfartal 3 - 3 oedd hi rhwng Charlton ac Aston Villa, a'r ddau dîm yn sgorio yn y munudau olaf.

'Mi fasan nhw wedi sgorio chwech gôl heblaw amdanaf fi,' broliodd Huw.

Doeddwn nhw ddim yn edrych fel petaen nhw'n mynd i sgorio, meddai ar y Post Cyntaf.

Y sgôr derfynol oedd 46 - 20, gyda'r capten Craig Quinnell yn sgorio dau o'r chwe chais.

Enillodd 48 o gapiau rhyngwladol a bu'n chwarae'n broffesiynol nes yn 50 oed gan sgorio dros 500 o weithiau.

Valencia sy'n mynd trwodd gan iddyn nhw sgorio gôl oddi cartre yn Highbury yn y cymal cyntaf.

Dyw sgorio ceisie ddim yn haws i Gymru chwaith.

'Yn lle hynny cafodd ei fowlio heb sgorio.

Bu raid i Steve James adael y maes ar ôl sgorio 30 wedi i'r bêl daro ei benglîn.

Rwy i wedi cael tipyn o dynnu coes ar ôl sgorio yn ein gêm ddwetha ni yn erbyn Wrecsam.

Ganol y prynhawn yr oedd Indiar Gorllewin wedi sgorio 140 am un gyda Sherwin Campbell a Wavell Hinds yn gyffyrddus iawn.

Clip ffilm oedd hon oedd yn fy atgoffa o sgets Harry Enfield yn dangos pêl-droedwyr y gorffennol yn chwarae yn erbyn tîm cyfoes ac yn cael braw o'u gweld yn cusanu ar ôl iddyn nhw sgorio.

Heb ymosodwr ymhlith eu heilyddion prin y daeth tîm John Hollins yn agos at sgorio.

Serch hynny, roedd hi'n ddiwrnod eitha diddorol gyda dau o fatwyr yr ymwelwyr yn sgorio dros hanner cant a bowlwyr Morgannwg yn dodir bêl yn y man iawn.

Wedyn yn ôl rheolau system Duckworth-Lewis, roedd yn rhaid i Warwick sgorio 202 oddi ar 38 o belawdau.

Mae'n rhywfaint o syndod nad yw asgellwr dawnus Caerdydd, Craig Morgan, yn cael ffafriaeth ar ôl disglleirio a sgorio dau gais gwych dros ei glwb echdoe.

Dim ond Ian Rush, Ivor Allchurch a Trevor Ford sydd wedi sgorio mwy.

Wrth i'r timau ail- ddechrau chwarae ar ôl i'r gôl gael ei sgorio hyrddiwyd rhywbeth ar y cae.

Mae batiwr Morgannwg, Jacques Kallis, wedi sgorio dwy fil a hanner o rediadau mewn gemau prawf i Dde Affrica.

Ar ddiwedd diwrnod cynta'r gêm yn Lahore yn erbyn Tîm Bwrdd Criced Pakistan roedd Lloegr wedi sgorio 76 am ddwy wiced mewn ateb i 117 y tîm cartre.

Agorodd fflagon o gwrw a mwynhaodd weld cynfaswr Cymru'n sgorio tri chais gwych.

Heskey a Babbel sgoriodd goliau eraill Lerpwl, gyda Ferguson ac Unsworth yn sgorio i Everton.

Roedd yr amddiffyn yn dda, cadwon nhwr bêl yn dda a falle dylser tîm fod wedi sgorio mwy o geisiau a dweud y gwir - dau neu dri arall yn yr ail hanner, falle, meddai Geraint John o'r tîm hyfforddi.

Parhaodd Mansfield ar y blaen am awr cyn i Gaerdydd sgorio cystal gôl ag a welwyd ar Field Mill.

Roedden nhw'n moyn sgorio ceisiau eu hunain yn lle trafod y bêl a rhoi cyfle i rywun arall groesir llinell, meddai.

'O'n i wedi sgorio gôl, roedd fy hyder i'n uchel a rown i'n teimlo gallwn i fynd 'mlân i sgorio gôl arall.

Ond, yn lle derbyn hyn fel beirniadaeth ar eu diffyg arweiniad eu hunain, mae Ceredigion yn adrodd hyn, mewn dull sgorio pwyntiau, fel cyfiawnhad dros gau ysgolion.

Gobeithio nawr y galla i fynd mlaen a sgorio rhagor.

'Dydy o byth yn sgorio, felly mi fydd o'n cofio'r gôl honna am hir iawn.

mae'r amser wedi dod i fi sgorio mwy o rediade ond os bydd y bêl yn dod i fi treio cadwn dynn.

Roedd yna ddigon o glod i Gymru, felly ond wedi dweud hynny doeddan nhw ddim yn sgorio'n ddigon isel.

Yna, pan oedd popeth yn mynd yn eithaf, ffeirio ei ddewis cyntaf, Neil Jenkins, am Arwel gyda hwnnw dan orchymyn - a phwysau - amlwg i sgorio â chic adlam, doed a ddel.

Os yw'r gêm ar y teledu mae'n ymwybodol o leoliad y camerâu ac yn gwneud yn siwr ei fod yn cael ei weld; er enghraifft os yw rhywun wedi sgorio gol yn ystod yr hanner cyntaf bydd yn mynd ato i'w longyfarch wrth i'r chwaraewyr adael y maes neu yn achos un reff o Gymro yn ystod gêm rhwng Man U a Tottenham yn gadael y maes adeg tafliad o'r ystlys er mwyn cael sbwnj oer ar ei dalcen.

Ar ôl sgorio chwe gôl yn eu dwy gêm gynta yn y grwp, dim ond dwywaith y gwnaeth Gwlad Pwyl greu cyfle clir i ychwanegu at eu cyfanswm.

cawsant sawl cyfle i sgorio ond dim ond un arall a ddaeth a honno gan raducioiu yn hwyr yn y gêm.

"Dim peryg," atebodd Douglas gan gipio'r bêl a rhedeg fel milgi i sgorio unwaith eto.

Batiodd Mahela Jayawardene yn odidog yn sgorio 101 heb fod mâs i Sri Lanka oddi ar 115 pelen.

Ond i fod yn deg, yn Ewrop, maen nhw wedi bod cystal ag unrhyw glwb a hynny'n bennaf am eu bod nhw'n sgorio goliau.

Wedi iddyn nhw reoli'r hanner cynta a mynd yn agos at sgorio ar bump achlysur cafwyd camgymeriad gan Clayton Blackmore, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, yn chwarae ei gêm gynta i Fangor.

Ymdrechodd Y Barri yn galed i sgorio ail gôl a chliriwyd un ymgais oddi ar y llinell.

Un gôl ddaru o sgorio ond fe fethodd tua deunaw.

Wedi'r cyfan roedd y canlyniade yn ddigon sicr ac roedd Cymru wedi sgorio pedair gôl mewn tair o'r pum gêm chwaraewyd ers iddo afael yn yr awene.

Roedd wedi sgorio 23 pan drawodd y bêl yn galed yn syth at Russel Arnold oedd yn maesu yn agos i'r wiced a rywsut daliwyd y bêl yn ei grys.

Peniad gwan Scott Young yn ôl i'w golwr a Stephan Lemarchand yn sgorio.

Sgoriodd Morgannwg 220, Matthew Elliott gyda 94, ei sgôr uchaf i'r sir yn y gystadleuaeth, a Matthew Maynard ar ei orau unwaith eto yn sgorio 50 gan rannu 98 am y drydedd wiced.

'Rhyw bum munud oedd yn weddill cyn diwedd y 90 mund pan gês i gyfle i sgorio.

Mae Mark Stein wedi profi ym mhob Adran ei fod yn medru sgorio goliau.

Yr oedd Robert Earnshaw yn denu sylw cyn iddo sgorio tair gôl yn erbyn Bristol Rovers ddydd Sul.

Roedd Derby'n ddyledus iawn i'w capten Dominic Cork am sgorio 83 heb fod mâs gan sicrhau buddugoliaeth i'w dîm gyda phedair pelawd yn weddill.

Mae Michael Owen wedi dechrau pump o chwe gêm ddwetha Lerpwl ac wedi sgorio chwe gôl mewn wythnos.

Yn dilyn y fuddugoliaeth yn Ffrainc, Mawrth 17, mae Cymru ar i fyny unwaith eto a gallwch chwithau sgorio gyda chyfeillion trwy ddefnyddio'r egardiau rygbi BBC Cymru'r Byd.

Ar un adeg roedden nhw'n 77 am chwech ond fe rannodd Steve James ac Adrian Shaw 61 am y seithfed wiced gyda James yn sgorio 54 heb fod mâs.

Roedd y tîm cartref heb sgorio rhediad na cholli wiced amser cinio.

Be sy'n ddiddorol, wrth gwrs, yw mwya i gyd mae o'n sgorio, mwya i gyd o bobol sy'n mynd i ofyn pam nad ydy o yn chwarae i Gymru.

Parri yn mynd allan heb sgorio (os am ddewis, ar ôl pêl gyntaf y belawd gyntaf) tra oedd rhywun arbennig o'r enw G.

Mi wnaethon greu sawl cyfle da i sgorio.

Y sgôr oedd 42 - 16 gyda'r Vikings yn sgorio chwe chais i un gan Yr Alban.

Roedd y sgorio hefyd yn araf, Essex yn sgorio ychydig dros ddwy rediad y pelawd yn ystod y dydd.

Ar ôl i Loegr gau ei batiad ar 488 am wyth wiced yr oedd Pakistan wedi sgorio 119 am ddwy wiced erbyn diwedd trydydd diwrnod y gêm brawf yn Lahore.

Mae'n anlwcus felly i unrhyw chwaraewr roi menthyg ei fat i un arall gan ei fod yn rhoi iddo hefyd y cyfle i sgorio ar draul ei lwyddiant ef ei hun.

Murray Goodwin oedd arwr yr ymwelwyr - mae e wedi sgorio 148 heb fod mâs.

Roedd y tîm cartre ar y blaen wedi dim ond pum munud, Shayne Bradley yn sgorio o groesiad Lee Williamson.

Os yw Morgannwg yn gobeithio ennill bydd yn rhaid iddyn nhw sgorio tipyn mwy na 250 yn eu batiad.

Mae pobol wedi bod yn dweud ei fod dipyn bach yn hen ond mae dawn sgorio goliau ganddo fe a dyna ydan ni eisiau - fe fydd en gaffaeliad i Abertawe.

Heblaw hynny, roedd sgorio Lloegr yn arbennig o araf, dim ond mymryn dros dair rhediad y belawd oedd eu hangen ar Sri Lanka i ennill.

Roeddwn i'n meddwl bod ni wedi gwneud digon yn yr hanner cynta, wedi cael digon o feddiant, digon o gyfleon i sgorio sawl cais.

Un fydd sgorio hanner cant, meddai.

Er i Luke Staton sgorio i'r Barri ychydig cyn yr egwyl a'r eilydd Marvin Blake yn cael un arall cyn y diwedd roedd Wrecsam yn feistri corn.

Mae Bwrdd Criced De Affrica wedi cyhoeddi na fydd y batiwr agoriadol Herschelle Gibbs yn y garfan ar gyfer y daith i Sri Lanka fis nesa ar ôl i Gibbs gyfaddef ei fod o wedi derbyn cynnig o $15,000 gan ei gapten Hansi Cronje i sgorio llai nag ugain o rediadau mewn gem undydd yn India.

Roedd Moore yn y tîm enillodd y prawf cynta yn Osaka ddoe, 64 - 10, gyda thîm Cymru yn sgorio deg cais.

Petaen nhw wedi sgorio 10 fuasai neb yn cwyno.

Dewisodd Sri Lanka gau eu batiad ar ôl sgorio 475 o rediadau am bum wiced.

Mae'r pinnau gwallt yma yn bwysig i'r chwaraewr gan fod pob pin yn arwydd o lwyddiant wrth daro'r bêl, y bydd yn bêl dda ac yn galluogi'r chwaraewr i sgorio'n dda.

Doedd y ffeinal ddim yn gêm o sgorio isel, chwaith, o ran hynny.

Sgoriodd Sanchez gôl arall - ei ail - yn union wedi'r egwyl, cyn i Gaizka Mendieta sgorio'r drydedd.

Ryfeddol! Dyna'r unig air i ddisgrifio'r modd y daeth Wrecsam yn ôl i sgorio pedair gôl yn yr hanner awr ola i guro Luton 4 - 3 yn Kenilworth Road.

Hyn ar ôl iddo sgorio 38 ym matiad Morgannwg.