Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.
Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.
Roedd hwn yn berfformiad ofnadwy oedd yn sgrechian am ronyn o aeddfedrwydd a safon i gael gwared ar dîm ddylse fod wedi cael coten.
* * * * * "Reit, yr ail broblem, y dreigiau yma sy'n sgrechian," meddai Llefelys.
Yna, yng nghanol ei ddychryn mawr, clywodd ei chwaer, oedd eiliad ynghynt wedi bod yn sgrechian am ei bywyd, yn gweiddi chwerthin.
Dechreuodd fel gwichian a siffrwd wedyn troes yn sgrechian a sŵn rhuthro.
Aeth yn ôl i'r gegin a chlywed y sgrechian wedyn a llais Mary yn glir yn gweiddi mewn dychryn, 'Mae'n ddrwg gen i, ddrwg gen i.
Plymiodd un amdano yn wyllt, fel awyren yn sgrechian cyn gollwng bom ar long adeg rhyfel.
Y peth gwaethaf am y cyfan ydi na wn i na neb arall beth sy'n sgrechian, heb sôn am sut i'w atal.
Ond cyn i'r un ohonynt gael amser i brotestio, dyma'r gath yn sgrechian, 'Dyma'r ail gamgymeriad i chi ei wneud, wrachod!
'Mae'n neis gweld Cymry mâs yma a maen nhw'n sgrechian drosto i a mae lot wedi dod i ddilyn y tîm.
Roedden nhw'n sgrechian ac roedd rhai ohonyn nhw wedi cael eu anafu'n ddrwg.
Yna dechreuais weiddi ac hyd yn oed sgrechian, ond yr hyn a weithiau fel brec arnynt oedd llond ceg o Gymraeg na fuaswn yn ei defnyddio'n gyhoeddus adre!
O'u cwmpas roedd cannoedd o filidowcars a gwylanod yn sgrechian eu protest wrth i'r cwch pysgota bychan lithro'i ffordd i fyny un o'r hafnau a arweiniai i Ogof Plwm Llwyd.
Cafodd lan druan gêm ofnadwy yn Iwerddon ac fe gofiaf yn iawn weld y capten Yorath yn sgrechian arno am fethu gwneud rhywbeth yn iawn.
"Roedd Gwladys a Meinir eisoes, yn ôl y drefn, wedi rhoi eu dwylo wrth eu cegau crynion, ac wedi dal eu hanadl a sgrechian, ac erfyn am gael peidio â chlywed y manylion gwaethaf.
Mi o'n i'n lecio fo hefyd - ogla'r môr, a gwylanod yn sgrechian uwch ein penna' ni.
Eithr pan beidiodd yr ergydion, clywodd lais merch yn sgrechian a dychrynu cymaint nes iddi redeg i ffenestr yr ystafell ffrynt rhag ofn bod rhywun o'r drws nesaf wedi cael damwain.
Roedd babanod yn crio a phlant yn sgrechian a gyrrwyr yn swnio hwteri eu ceir a'r bobl yn y farchnad yn gweiddi ar y prynwyr i ddangos beth oedd ganddyn nhw ar werth.