Ond Ysgol Eglwys o'dd y ddwy, ac mi ro'dd mam yn nabod sgwlyn Llangoedmor, ac oblegid hynny, rodd hi'n haws ganddo faddau i mam a minnau am y mynych ddyddiau a gollwn o'i ysgol.
Rwy'n cofio'r sgwlyn yn dweud wrthym eu bod yn rhoi sgwaryn o bren am wddf plant a glywid yn siarad Cymraeg yn rhai o ysgolion newydd yr ardal ond welais i neb yn cael y gosb honno, beth bynnag oedd hi.