Yr oedd bob amser yn sgwrsiwr brwdfrydig - er mawr bryder i'r sawl oedd yn cael ei gludo yn ei gar!
Diau y byddai'n ymddwyn yn fwy bonheddig gerbron Tywysog Cymru na cherbron tîm rygbi Bae Colwyn, ond Bedwyr oedd Bedwyr ble bynnag yr âi, Bedwyr y sgwrsiwr hwyliog, Bedwyr y cefnogwr unllygeidiog, Bedwyr y rhefrwr didderbynwyneb a'r rhegwr.