Cadernid ei gorff; breichia yn gneud imi deimlo'n ddiogel; 'i farf undydd yn crafu 'ngwynab i a'n 'sgwydda, a'r gwefusa 'na'n gwefreiddio 'nghlustia i a'n llygaid wrth i'w law gofleidio 'mhen-ôl i!
Ac ar 'sgwydda Sioned y bydd ochor weinyddol y sioe o hyn ymlaen p'run bynnag.' Cymerodd Sioned lymaid bychan o ddiod.