Pan fydde'r bechgyn ifenc yn galw heibio, doedd y croeso ddim mor gynnes a chynt, y gusan ddim mor agored, a'r miri ar goll, ac roedd rhai'n mynd mor bell a gweud fod rhan o fantell dieithrwch Madog wedi disgyn ar 'i sgwydde hi.