Pan ddaethom gyntaf oll i Shamshuipo fe roddwyd y tri swyddog uchaf, y Cyrnol, y Major a Chapten fy nghatrawd i, mewn ystafell ar wahân, ac yn yr ystafell honno roedd soffa go fawr.
"Evans, mae gen i camp bed ichi mi fydd dipyn yn well na chysgu ar y llawr." Diolchais iddo'n wresog, a theimlwn fy mod yn cael braint fawr o gael cysgu mewn gwely iawn amheuthun o beth mewn lle fel Shamshuipo.