A rhoi'r peth yn fyr ac yn fras, awgrym Shelley ydyw fod y meddwl creadigol ar adegau'n cael hwb i weld yn amgenach nag arfer a hwb i fynegi'r weledigaeth yn amgenach nag arfer.
Mae gan Shelley frawddeg yn defnyddio trosiad i ddisrgifio'r meddwl creadigol, ac fe all ei bod yn taflu goleuni ar feddwl creadigol Waldo : "The mind in creation is a fading coal, which some invisible influence like an inconstant wind, awakens to transitory brightness."(A Defence Poetry).
Yr oedd dylanwad dwy o gerddi hir Shelley, Prometheus Unbound a The Revolt of Islam, ar awdl Hedd Wyn, a cheir creadigaethau debyg i Arwr Hedd Wyn a 'Merch y Drycinoedd' yn y ddwy gerdd hyn.
Bu llawer o ddyfalu pwy oedd yr Arwr yn yr awdl, a phwy oedd 'Merch y Drycinoedd'. Yr oedd yr ateb i'w gael ym marddoniaeth Shelley, hoff fardd Hedd Wyn.
Gellir dweud, gyda thafod mewn boch, mai Dr Frankenstein oedd y cyntaf i ddod â deallusrwydd 'artiffisial' i rywbeth difywyd - ond creadigaeth ffug dychymyg Mary Shelley oedd hwnnw.