Hanes carwriaeth sydd yma ond carwriaeth sy'n llawn poen a chreulondeb a'r hanes wedi'i adrodd gan awdures brofiadol, Shoned Wyn Jones.
Dyma drydedd nofel Shoned Wyn Jones ac mae nofel sydd yn ddarllen byrlymus rhwydd fel hon yn haeddu derbyniad gwresog.
Gwirioni gan Shoned Wyn Jones.
Llwydda Shoned Jones i ddarlunio dirywiad perthynas a'r amheuon a'r twyll sy'n dod yn sgil y dirywiad yn fyw iawn gan osgoi'r melodrama all ddod i'r golwg mor rhwydd mewn stori fel hon.