Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sianel

sianel

Cyhoeddodd Gwynfor Evans ei fod yn bwriadu ymprydio, hyd farwolaeth pe bai raid, hyd nes y câi Cymru ei sianel ei hun.

Dros fwrw'r Sul, Tachwedd 12-14, mae S4C Rhyngwladol yn trefnu penwythnos arbennig yng Nghaerdydd, pan gaiff gwylwyr gyfle i gwrdd â rhai o sêr y sianel.

Roedd - - yn gweld fod modd gweithio i gyflawni gofynion hyblygrwydd y Sianel o fewn cynllun dwy flynedd.

Esboniodd - - fod yr hawl i archwilio yno er diogelu'r Sianel mewn achosion o dorr cytundeb, mewn achosion lle nad yw'r comisiynydd yn teimlo ei fod wedi cael gwerth ei arian, ac er mwyn atebolrwydd cyhoeddus.

Yna, ymhen rhyw ugain llath, lledodd y sianel yn ddwr llonydd, dwfn o flaen ceg yr ogof.

Gobeithiai Jabas yn fawr na fyddai'n gwneud camgymeriad gan y byddai un gwyriad o'r sianel gul yn golygu rhwygo ochr y cwch yn grybibion.

Bydd gweithgarwch gweinyddol a marchnata S4C dros y ddwy flynedd nesaf yn cael ei ariannu gan incwm masnachol y sianel.

Wyddoch chi mae cymaint o Saesneg a bratiaith ar y sianel honno - rwy'n ofni yn wir dros y Gymraeg.

Ymatebodd y cenedlaetholwyr mewn dwy ffordd i ergyd farwol y bleidlais nacaol, ymgyrchu o blaid cael y bedwaredd sianel i Gymru ac ymgyrchu yn erbyn problem gynyddol y tai haf.

Gwelwyd y digwyddiadau hyn yng nghyd-destun yr Eisteddfod, er enghraifft protestiadau'r suffragettes yn Eisteddfod Wrecsam ym 1912, a'r ymgyrch dros y sianel deledu Gymraeg yn y 1970au a'r 80au.

Fe aethon nhw adre yn sicr bod rhaid cefnogi'r sianel Lydewig a bod ynddi y gallu i wneud gwahaniaeth i sawl agwedd o fywyd Lorient a Llydaw.

Dywedodd Catrin Brace, Pennaeth Digwyddiadau egni: "Mae'r rhychwant eang o raglenni mae S4C yn eu darlledu yn cynnig cyfle gwych i dynnu gwylwyr y sianel sydd â diddordebau penodol at deithiau a digwyddiadau arbennig yn gysylltiedig â'r rhaglenni.

Yn sicr, bu lansio'r sianel newydd yn gyfrifol am ddenu diddordeb darpar gyflwynwyr, a derbyniwyd dros 1,000 o geisiadau.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio hyd farwolaeth oni fyddai'r Llywodraeth yn newid ei meddwl ac yn dilyn ei maniffesto ynghylch sefydlu sianel deledu Gymraeg yng Nghymru.

Ffrainc a Phrydain yn penderfynu adeiladu twnel o dan y sianel.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwelwyd twf sylweddol y sianel ddigidol, wrth i BBC Cymru ddatblygur gwasanaeth newyddion Deg o'r gloch a rhaglenni SportswRap, tran darparu cyfle i'r dalent cyflwyno a newyddiadurol ifanc syn dod i'r amlwg fel Rebecca John a Jason Mohammad gyflwyno rhaglenni.

Gan dybio fod Cymreictod ar drai, torrodd y Llywodraeth newydd ei haddewid i roi ei sianel ei hun i Gymru pe câi ei hethol.

Daeth yn amlwg fod nifer o Gymry Cymraeg yn barod i gydweithio â'r Torïaid -- dim ond iddyn nhw gael arian i gynnal Sianel Gymraeg, y Steddfod, rhywfaint o ysgolion Cymraeg a'r Quango ei hunain, doedd dim ots am ryddid i Gymru a bywyd i'w chymunedau lleol.

Fe ellid fod wedi dweud hynny ar ôl protest Trefechan, gellid fod wedi dweud hynny ar ôl ennill arwyddion dwyieithog, fe ellid fod wedi dweud hynny — yn wir fe ddywedwyd hynny — ar ôl ennill y sianel ac mae nhw'n dal i ddweud hynny ers Deddf Iaith 1993.

Yn ogystal â'r darllediadau ar BBC2, Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales bydd y sianel ddigidol BBC Knowledge yn darlledu pob un o'r rowndiau a bydd y safle www.bbc.co.uk/cardiffsinger yn darlledu'r rhaglenni yn fyw.

mae'r sianel ddigidol wedi llwyddo bron i ddyblur cynyrchiadau teledu a wneir yng Nghymru ar gyfer Cymru.

Roedd y cynhyrchydd am ddefnyddio dyn camera adnabyddus, fe wrthododd un o reolwyr cyllid y Sianel gydnabod ei ffi drwy honni fod y ffi yn uwch na'r hyn yr arferai dalu am y math o raglen dan sylw.

Mae'r sianel ddigidol wedi llwyddo bron i ddyblu'r cynyrchiadau teledu a wneir yng Nghymru ar gyfer Cymru.

Trannoeth ymwelwyd â Derwen - cwmni mawr sydd bellach wedi ehangu i Ddulyn a Llundain - oherwydd anghenion sianel Gymraeg.

Yn Iwerddon, fe fu gwrthwynebiad, beirniadaeth, a gwatwar y sianel newydd-anedig.

Serch y daw geiriau teg o du gweinidogion y Swyddfa Gymreig, rhaid i ni gofio mai unplygrwydd y Doctor Gwynofr Evans a roes i ni ein Pedwaredd Sianel, ac nid haelioni'r Fendigaid Fargaret.

Ym 1970, dywedodd pawb na fyddai'r Llywodraeth byth yn rhoi sianel deledu Gymraeg i ni.

Ceir darllediadau byw hefyd o drafodaethau allweddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar deledu BBC Cymru, ac mae menter ar y cyd ag S4C ar ei sianel ddigidol, S4C2, yn darparu darllediadau cynhwysfawr, yn Gymraeg a Saesneg.

Yn oes y sianel, mae'n naturiol fod awduron rhyddiaith yn mynd i ddewis y teledu fel ffon eu bara, a llunio nofelau fel hobi.

Mae'r sefyllfa'n waeth byth pan mae ambell sianel yn cael cwmni%au i noddi ffilm neu raglen.

Mae hi bron yn amhosib i lenor proffesiynol sy'n byw ar ei ysgrifbin neu'i brosesydd geiriau ennill ei damaid wrth ysgrifennu yn Gymraeg yn unig, er bod y sianel deledu Gymraeg yn siŵr o fod wedi bod yn gaffaeliad yn hyn o beth.

Bydd y cwmni yn cychwyn ar Fedi 1, gyda dwy sianel - un Ffrangeg a'r llall yn cynnwys Ffrangeg a Llydaweg.

Ni all sianel afon ond dal hyn a hyn o elifiant, felly os yw afon â mwy o ddwr na hyn bydd yn torri dros ei glannau ac yn gorlifo.

O'i llygad i'w haber, ei phrif sianel hi yw afon hwyaf yr Ynys.

Gellir priodoli llwyddiant y sianel i gorff o gyflwynwyr ymroddedig a hyblyg ynghyd âr cyfleoedd gwych a gynigir ganddi ar gyfer dyfeisgarwch a chreadigrwydd.

Weithiau, bydd angen mwy o wybodaeth neu agwedd newydd ar bwnc a fyddai'n rhoi gogwydd ychydig yn wahanol i'r stori o'i chymharu â fersiwn y sianel arall.

Gwilym Owen (colofn gas Golwg) yn dweud mai ymgyrchwyr y Sianel oedd pobl mwyaf siomedig diwedd y degawd.

Rhoddwyd croeso calonogol i'r Cynulliad Cenedlaethol wrth i BBC Radio Cymru fynd ar daith am wythnos o Gaergybi i Fae Caerdydd yn Taith y Cynulliad, gan barhau ag athroniaeth y sianel o estyn allan i'w chynulleidfa.

Carchariadau eto. Buddugoliaeth Llywodraeth Lafur yn cytuno i roi gychwyn ar Sianel Gymraeg a'r Torïaid yn cydsynio.

Wrth sôocirc;n am yr orchest ddiweddaraf hon i gynnyrch animeiddiedig S4C, dywedodd Cyfarwyddwr Animeiddio'r sianel, Chris Grace, oedd hefyd yn Gynhyrchydd Gweithredol ar y gyfres, "Mae'r gamp o ennill yr Emmys hyn yn rhoi boddhad dwbl, gan eu bod nhw'n cydnabod y dalent sydd yng Nghymru a swyddogaeth alluogi S4C yn dod â'r cyd-gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac arloesol hwn at ei gilydd.

Gwelwyd y digwyddiadau hyn yng nghyd-destun yr Eisteddfod, er enghraifft protestiadaur suffragettes yn Eisteddfod Wrecsam ym 1912, ar ymgyrch dros y sianel deledu Gymraeg yn y 1970au ar 80au.

Tybed ai'r llanc ieuanc a fu'n canu am dd^wr a fydd y dyn i roi terfyn ar y glastwreiddio hwn a dweud nad yw'r Sianel eisiau bod yn Sais?

Llywodraeth yn derbyn argymhelliad Crawford y dylid sefydlu Sianel Deledu Gymraeg.

Ffurfir y glannau neu'r cloddiau bychain o bobtu'r afon yn naturiol wrth i'r afon ollwng gwaddod ger y sianel pan fydd yn gorlifo.

Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.

Yn unol â'r Fenter Datblygu Sianel, datblygu cynlluniau rhaglenni, amserlennu, cyflwyno a marchnata a fydd yn llywio cymeradwyaeth y BBC yng Nghymru, gyda'r targed o gyflawni cynnydd pellach yn y gyfradd gymeradwyaeth (7.1 ar hyn o bryd) erbyn diwedd 1999/2000.

Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio hyd farwolaeth oni fyddai'r Llywodraeth yn newid ei meddwl ac yn dilyn ei maniffesto ynghylch sefydlu sianel deledu Gymraeg yng Nghymru.

Gwelais hysbysebion yn ddiweddar am Brif Weithredwr i Sianel Pedwar Cymru.

Y BBC yn gofyn am ail sianel deledu.

Yn gyntaf, oherwydd fod yr Wyddeleg wedi gorfodi i'r cyfryngau dderbyn datganoli. Er yn sianel genedlaethol nid yn y brifddinas ymhlith y crach - a'r tinlyfwyr - ond ym mhen draw'r byd yng Ngonnemara mae'r pencadlys.

O ran newyddion teledu Wales Today sy'n cyrraedd y brig erbyn hyn fel y llwyfan amlycaf ar gyfer newyddion Cymru ar unrhyw sianel mewn unrhyw gyfrwng.

Mae llawer o'r cynyrchiadau ar y sianel ddigidol yn fyw felly mae angen i'r cyflwynwyr feddu ar feddwl chwim a pheidio â cholli eu pennau: her y mae'r criw talentog yn fwy na pharod i'w chwrdd.

Brad Wedi ennill yr Etholiad, torrodd y Llywodraeth Dorïaidd eu gair gan ddweud na byddai Sianel Gymraeg wedi'r cyfan.

Yn ddaearyddol, nid yw lleoliad Parc Cenedlaethol Eryri yn un da i fanteisio ar Dwnel y Sianel ac ar y Farchnad Ewropeaidd Unigol.

Fe awgrymodd - - fod y broses o drafod a chytuno ffioedd fel hyn yn iachus ac yn golygu fod y Sianel yn sicrhau gwerth eu harian.

Nodwn hefyd cyn sefydlu Sianel Pedwar Cymru y bu i rai godi cwestiynau tebyg o ran a fyddai digon o dechnegwyr Cymraeg eu hiaith ar gael.

Drwy archwilio'r ffyrdd y bydd dŵr yn cyrraedd sianel yr afon, gall gwyddonwyr (a elwir yn hydrolegwyr) ei gwenud hi'n haws i bobl fyw mewn cytgord ag afon.

Roedd - - yn awyddus i nodi fod ymyrraeth annerbyniol gan reolwyr ariannol y Sianel ar y pwnc o gyflogau.

Ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu TG4 y mae cynulleidfa'r sianel wedi cyfarwyddo a phêl-droed Sbaen, dilyn hynt a helynt cyfreithwyr Amsterdam, a chael blas ar haute cuisine y gwledydd pell.

Ar y cychwyn dim ond un sianel oedd yna a phawb felly yn gwylio'r un rhaglenni.

Y refferendwm, sgwâr Llangefni ar ôl ethol Keith Best yn 1979 a chyfarfod cyhoeddus i gefnogi Gwynfor yn ei safiad dros Sianel ydi rhai o'r 'profiadau mawr' cynta dwi'n cofio eu cael, a gan nad oedda ni yn deulu am fynd o steddfod i steddfod mae'n debyg mae steddfod Llangefni a champio yng ngardd gefn Anti Jini oedd un o'r cyfleoedd cynta ges i i ymaelodi.

Pe baech yn archwilio'r afon yn fanylach, byddech yn gweld bod unrhyw gerrig rhydd neu gerrig mân sy'n gorwedd yn y sianel hefyd yn grwn.

Thema ganolog: Llwyddiant: symud ymlaen ar ôl siom y Refferendwm ar Ddatganoli at brotest Gwynfor Evans ym 1980 ynghylch sefydlu Pedwaredd Sianel Cymru; sefydlu'r Sianel ym 1982, a diweddu gyda Chymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r ail Refferendwm ar Ddatganoli, a'r Cynulliad ar ei ffordd ar gyfer y mileniwm newydd.

Dal i bwyso, gyda 3 mis o weithredu difrifol ddwywaith yr wythnos yn erbyn adeiladau ac eiddo'r cwmnïau teledu a'r Llywodraeth. O fewn 5 mlynedd, gwelodd dros 1,000 o aelodau'r Gymdeithas y tu mewn i waliau carchar oherwydd eu rhan yn yr ymgyrchoedd dros Sianel Gymraeg a Statws Swyddogol i'r Iaith.

Gellir ei gweld ar sianel Setanta, sianel chwaraeon Celtaidd sy'n darlledu ym Mhrydain ac yn Ewrop.

Mae ei ddyfodiad yn sicr yn garreg filltir: dyma'r sianel adloniant gyntaf gan y BBC mewn mwy na 30 o flynyddoedd ers lansio BBC Dau ym 1964; a'r bloc dwy awr o raglenni di-dor nosweithiol cyntaf yn Saesneg wedi eu gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru - gan bron iawn ddyblu cynnyrch teledu Saesneg BBC Cymru o fwy na 600 o oriau i 1,170 o oriau y flwyddyn. Mae cryn dipyn ohono'n rhaglennu byw.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwelwyd twf sylweddol y sianel ddigidol, wrth i BBC Cymru ddatblygu'r gwasanaeth newyddion Deg o'r gloch a rhaglenni SportswRap, tra'n darparu cyfle i'r dalent cyflwyno a newyddiadurol ifanc sy'n dod i'r amlwg fel Rebecca John a Jason Mohammad gyflwyno rhaglenni.

Mae ei phrif sianel yn glynu'n glos wrth lan orllewinol yr aber, ac ar ôl iddi fynd heibio i Ddinas Llwyd mae'n ymdoddi i'r môr ym Mae Malltraeth

Byddai'n rhaid i Gymru fod yn rhan o'r chwyldro technolegol newydd ac o gynllun y Llywodraeth i sefydlu pedwaredd sianel deledu os oedd i oroesi yn y byd modern.

Yr wythnos diwethaf gwelwyd sefydlu sianel deledu ddiweddaraf y gwledydd Celtaidd - yn Llydaw.

Ond yn suth ar ol gorffen Y Wisg Sidan bydd cwmni arall o Gaernarfon, Ffilmiau'r Nant, yn symud yno i ddechrau ar y gwaith o baratoi cyfres arall ar gyfer sianel pedwar.

Yna tynnwyd yr injan o'i ger a gadael i'r Wave of Life symud yn araf i fyny'r sianel gyda'r llanw.

O westy yn y ddinas y teledwyd rhaglen deledu gyntaf yr Unol Daleithiau ac wedyn lleolwyd sianel deledu gyntaf y wlad yno.

Hwyliodd llynges Owain Lawgoch allan i'r Sianel.

Wrth agosa/ u ar y fordaith gartref am Sianel y Saeson yr oedd llawer o longau hwyliau yn curo yn erbyn gwyntoedd croesion a llawer ohonynt wedi mynd yn brin o fwyd.

Mae 'na sianel Gymraeg… ond yn llawn cyfweliadau Saesneg.

Brwydr y Sianel 1970 Llunio polisi a chyhoeddi dechrau ymgyrch. 1971 Aelodau'r Gymdeithas yn dringo mastiau ledled Cymru ac yn torri i mewn i stiwdios teledu yn Lloegr gan ddifrodi eiddo.