Fe'i defnyddid gan wrachod yn eu swynion ac felly os darganfyddid un mewn tusw o flodau Calan Mai fe'i teflid ymaith ar unwaith.Cyfeiria'r enw arall - Mantell y forwyn - at siap y blodau a'r hen arferiad o daenu mentyll ar lwyni i sychu yn y gwanwyn cyn eu cadw tan y gaeaf.
"Yr un siap â phâr o drôns," meddyliodd Morfudd.
'Ond mae tamed bach o siap yn dod arnon ni nawr a mae'n rhaid i ni gryfhau rhai safleoedd eraill yn y garfan.
Doedd hi ddim yn fawr ond yr un siap a blaen main y Concord, a gellid gweld dwy injan turbo nerthol ar ei thin.
Nid yw'r glud yn un cryf iawn, mae tua deg gwaith gwannach na bondiau cemegol arferol felly mae'n eitha' hawdd datod y belen protein o'i siap.
nodweddion sy'n weladwy ond yn anodd eu mesur, fel siap pen anifail neu gyrn.
Mewn gwirionedd nid yw'r belen yn flêr, mae'r siap a'r ffurf wedi eu trefnu'n ofalus ac yn cael eu dal at ei gilydd gan gysylltiadau neu fondiau cemegol a elwir yn fondiau hydrogen.
Yr enw am ffurf neu siap anifail yw cydffurfiad.
Rwan i'r rhelyw ohonoch nad ydych yn sgiwyr, y peth cyntaf i ddysgu ydy sut i sgio ar sgis mewn siap swch aradr eira.
Mae'r lechen yn cynrychioli'r tô ac felly yn arwydd o'r cartrefi yr ydym yn eu darparu, tra bod yr eryr (sy'n amlwg yn siap y lythyren 'E' am Eryri) yn aderyn a hed yn uchel ac mae hyn eto'n arwydd o safon uchel gwaith y Gymdeithas.
A ph'run bynnag 'doedd yna ddim siap siarad ar yr un tudalen ynddo fo.
'Does eisio dim ond agor y llyfr i weld mai siap siarad sydd arno.
Gwnewch linell syth a siap hirgrwn yn yr un ffordd.
Yr oedd bwrdd crwn ynghanol yr ystafell, o bren tywyll, bron yn ddu, a'r traed yn gorffen mewn siap palf llew.
Felly fydd Catherine Zeta Jones ddim yn priodi nes y bydd ei chorff wedi dod yn ôl i siap ar ôl iddi esgor ar ei babi.
Doedd dim siap ar Gaerdydd y diwrnod hwnnw.
Y newyddion drwg i'r rhai hynny sy'n trio cadw llygaid ar eu siap ydi mai yn y siocled drutaf y mae'r lleiaf o galori%au achos bod ynddyn nhw fwy o gacoa a llai o siwgwr.
Er bod llwybr yma yn ymddangos yn fyrrach o edrych ar atlas ysgol wedi'i seilio ar dafluniad Mercator, gwyr pawb mai siap sffer sydd i'r ddaear, ac felly rhaid i'r llwybr byrraf rhwng dau bwynt ar wyneb y ddaear ddilyn cylch naturiol y sffer.
Ac er bod yna ddigon o siap siarad yn ei lyfra fo, doedden ni ddim yn hanner deall ei iaith o.
"Sgwennu% oedd pob llyfr arall, hyd yn oed rai fel y Rhodd Mam, ac yn fwy fyth y 'Fforddwr, oedd yn cymryd arnynt fod yn siarad ac yn twyllo pobol efo golwg eu tudalennau i ddisgwyl sūn geiriau nid eu siap.
Erbyn pnawn Mercher dyma gadael y siap 'swch' i droi, plygu'r gliniau, plannu'r polyn yn yr eira, naid bach i fyny ac i rownd y tro.
Fel y dywedodd rhywun, llawn cystal nad ydyn nhw'n mynd i ddisgwyl nes y bydd Michael Douglas wedi adfer ei siap ef hefyd.
Bydd ymarfer corff o gymporth i dynhau'ch cyhyrau a gwella'ch siap.