Be bydaet ti yn aros am flwyddyn eto i edrych sut y bydde pethe?' ' Siaradai'n dyner a pherswadiol; ond aeth ei eiriau fel brath i'm calon.
A beth am Occitaniaid Ffrainc neu Sardiaid a Friuliaid yr Eidal, a siaradai dafodieithoedd (i'w cyfoeswyr) sydd bellach yn cael eu cydnabod yn ieithoedd annibynnol?
siaradai llawer o wy ^ r amlwg prydain yn gyhoeddus yn erbyn rhyfel ac ar un adeg dywedodd un o weinidogion y llywodraeth mai angen, newyn, haint a marwolaeth yw rhyfel.
Ei siomi gafodd John Evans, ni welodd yr Indiaid a siaradai Gymraeg.
Mi fydd yn gywilydd i'w galon o os gwnaiff o.' ' Fel yna y siaradai pobl.
Yn y Gymraeg y siaradai, gallasai fod yn ben tost i'r cyfieithydd ar y pryd ond mae'n siwr iddo gael y cwbl ymlaen llaw a throsi'r wybodaeth i'r iaith fain yn rhugl a rhwydd.
Siaradai Gymraeg ag ambell gymydog neu ymwelydd.
Siaradai Ernest yn ddi-baid am ddifyrrwch y diwrnod, a disgrifiai yr hynt gyda blas.
Am y llwynog a'r sbort o'i ddal y siaradai'r cwmni wrth y bwrdd mawr, ac felly y gwnâi cymdeithion Harri wrth y bwrdd bach.
Ond ni siaradai lawer amdanynt, ac eithrio'r ddiod a'r pridd ei hun.
Siaradai'r dynion yng nghefn y cerbyd ac yn aml chwarddent yn uchel ond ni ddeallai Glyn air o'r hyn a ddywedent.
Canys mwy trist na thristwch oedd deall mai Miriam oedd yr unig blentyn punp oed a siaradai gymraeg o blith naw o blant a dderbyniwyd i ysgol Llangybi y flwyddyn honno wedi gwyliau'r haf, a hynny yn un o gadarnleoedd 'tybiedig' yr iaith.
Na pam mae 'i Gymrâg e'n swnio'n ddierth i ni..." Yr oedd cael bod yng nghyffiniau Y Plas ac Eglwys Sant Cunllo'n nefoedd i mam, ac nid oedd hast arni i ddod oddi yno, a siaradai â phawb, a phawb gyda hi.
Gallai fy nhad, Joseph Davies, siarad Cymraeg - 'Rhondda Welsh', fel y dywedai (heb falchder, gwaetha'r modd) - ond ni siaradai Gymraeg ar yr aelwyd gan mai di-Gymraeg oedd fy mam.