Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siarp

siarp

Yfodd hithau ei siâr, a synnu at y blas siarp.

Ac yn bennaf yr adeg hon o'r flwyddyn, byd y synhwyrau, byd yr ogleuon hydrefol y ceisid eu hatgynhyrchu mewn sentiach drud i ddynion: oglau lleithder siarp, mwsog a ffwng a rhedyn.

Wedyn, heb arlliw o addfwynder, byddai'n dweud reit siarp, 'A dim gair wrth eich Mam'.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

Cerddodd hwnnw'n gyflym gyda chamau bychain siarp a sefyll o flaen Dei tra y sychai hwnnw'r chwys oedd ar gledrau ei ddwylo.

Nid ymatebodd Gareth, ac wedi taflu golwg sydyn ato, trawodd Adam ef unwaith eto cyn ymbalfalu am y llyw wrth i'r car sgrialu o amgylch cornel siarp yn y ffordd.

Un o'r rhai mwyaf gogleisiol oedd honno a baentiwyd mewn paent coch ar dro siarp ger Corris.

Roedd y dwr yno'n siarp.

Gweithio i ennill fy mara a chaws 'rydw i,' meddai'n siarp.

Yr oedd yr hen wraig y cefais i'r fraint o'i hadnabod yn siarp a sensitif hyd y diwedd, yn falch ac yn atgofus, yn feistres ar ei theimladau ac ar ei meddyliau.

Ma' hi'n rêl cawras i ti, a'r un mor siarp 'i thafod â phan gychwynnodd hi.