Dywedodd un tyst wrtho fod y Cymry o'r bryniau a aeth i ymuno gyda Siartwyr Frost yn credu mai cyrchu Llundain oedd eu nod, ymladd yno un frwydr fawr ac ennill teyrnas.
Dyma oes y Siartwyr ym Mhrydain, a'r chwyldroadau yn Ffrainc ac Awstria.Dyma oes y gorthrwm ar ran y cyfoethog, yr ymosodiad gan berchenogion tir ar eu tenantiaid.
Yn arbennig am fod tuedd yng Nghymru at derfysg, gyda Merched Beca, a'r Siartwyr yng Nghasnewydd, roedd rhaid ymchwilio i gyflwr Cymru, ac fe ddaw'r cyd-destun cymdeithasol yn amlwg ar dudalennau cyntaf yr Adroddiadau.