Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siawns

siawns

Siawns na fyddai'r Tywysog Bach a Man Friday yn deall ei gilydd.

Yfory, bydd siawns i aelodaur garfan sydd heb gael dim, neu ond ychydig, gyfle i greu argraff.

Nid trwy adael i'w tlysau hel llwch yng nghypyrddau'r Stiwt y mae anrhydeddu campau bechgyn yr ardal siawns!

Siawns na chredodd honno chwaith wrth wreichionni ar dafod ysig y fflamau y doi iddi eto awr o ogoniant aur.

Mae'n enghraifft o fenthyciad i'w osgoi ar bob cyfrif os oes unrhyw siawns y gall eich incwm ostwng.

â'i rhyddhau o'i chytundeb a chymrodd y cyfarwyddwr ei siawns ar yr actores o Gaer.

A bod yn realistig, meddai, doedd gen i ddim siawns.

Wedi diweddu gobeithion Leyton Orient o esgyn i'r Ail Adran ddydd Sadwrn siawns nad yw Mansfield bellach wedi rhoi pen ar obeithion Caerdydd o ennill y bencampwriaeth.

Ond fe ddaeth buddugoliaeth - ac os oedd hi'n annisgwyl, nid buddugoliaeth siawns mohoni.

Bydd cyfle iawn i ni rhwng wyth a hanner nos." "Dim siawns i neb arall ddod ar ein gwarthaf?" "Neb.

Fe daerid fod y cyfryw ymgyrch yn lladd ein siawns i ddenu ffatrïoedd Seisnig i'r ardaloedd gwledig Cymraeg; a diau mai felly y byddai.

Cefais yr argraff o'r hyn a wyddwn fod cymaint o hap a siawns yn perthyn i hanes y teulu nes rhyfeddu fy mod ar dir y byw o gwbl a'm bod yr hyn oeddwn.Roedd fy chwilfrydedd yn fawr.

fasan nhw byth wedi dod â ni yma tasa 'na ryw siawns o hynny, paid â phoeni.

Felly mae gynnon ni un siawns mewn pedwar ou chwarae nhw.

Yn anaml iawn y digwydd mwtaniad mewn natur a hefyd yn yr algorithm genetig, ond mae ei bwysigrwydd yn gorwedd yn y siawns o greu cyfuniad o wybodaeth newydd.

'O'n i'n meddwl falle bod siawns 'da fi i gael fy nghynnwys,' meddai Dwayne ar y Post Cyntaf y bore yma.

Siawns na wyddai'n dda am ddatganiadau Emrys ap Iwan, T.

Nid dyma'r stori roedd Ifan eisiau iddi'i chroniclo, siawns.

Siawns na fydd rhywun wedi 'nghlywed yn taro'r môr." Ond roedd rhuo'r propelor wrth gorddi'r tonnau wedi boddi ei sŵn yn cwympo o'r British Monarch.

A gafodd bachgen erioed well siawns i fod naill ai'n eithriadol o grefyddol neu'n eithriadol o groes i hynny?

John Williams: 'Yr ydym ninnau yn berffaith sicr, fy nghyfeillion, ein bod wedi cychwyn y gwaith yma ar orchymyn y Meistr!' Dywedodd fod yna rai am iddynt gwtogi'r apêl i hanner can mil gan gredu bod siawns iddynt gyrraedd y swm hwnnw, ond dywedodd y Parch.

Siawns na allai'r Fawrhydi grafu byw tan hynny.

Siawns nad 'Dim ond gwella all pethau', chwedl Llafur Newydd.

O dan amgylchiadau o'r fath, gall y siawns o farw o dan y driniaeth fod cymaint â deg gwaith yn uwch nag y byddai o dan amodau mwy ffafriol.

Cafodd niweidiau mor ddifrifol dim ond un siawns mewn deg a oedd ganddi i oroesi.

Roeddwn yn Ariannin, felly, i ffilmio gambl enfawr gan un dyn; roedd Y Byd ar Bedwar hefyd yn cymryd siawns o'r mwyaf.

Mwya mae Mark Hughes yn chwarae'n y tîm lleia o siawns fydd 'na i Nathan Blake i chwarae.

Rwyn credu bod siawns fawr da ni i ennill y gystadleuaeth yma, meddai Robert Croft, troellwr Morgannwg.

Siawns nad oedd Crwys yn ddigon o realydd i wybod ei fod fel bardd yn ffalsio'n ddengar yng ngwasanaeth delfryd genedlaethol arobryn.

Nid ar siawns y dewisir lleoliad y twll ac os bydd cae tro neu ardd yn cael ei thrin yn agos at ganolfan cwningod dyna'r lle y dewis y fam guddio'i hepil.

Mater o fentro yw dysgu iaith, o gymryd siawns gyda'r cyfrwng er mwyn cyflwyno neges.

'Mae gan bawb hawl i newid, siawns gen i.' A threuliwyd gweddill y p'nawn yn astudio ffenestri siopau ac yn yfed te mewn tŷ bwyta yng nghanol y dref.

Mae siawns i fi nawr fynd lan i whare i Loegr unwaith eto.

Yn ystod y cyfnod hwnnw enillodd Caerdydd Gynghrair Cymru a'r Alban a mae siawns y gallan nhw wneud hynny eto.

Roedd ein visas yn dod i ben y diwrnod canlynol, a doedd dim siawns cael estyniad er mwyn medru holi gwleidyddion Iran ar gyfer y rhaglen.

Bydd siawns fod rhai o'r cyfuniadau newydd yma'n cynhyrchu creadur sy'n medru goroesi'n well nag eraill, wrth ehangu ar y wybodaeth enetig a etifeddwyd - gwybodaeth oedd yn llwyddiannus wrth fedru atgenhedlu yn y lle cyntaf.

Yfory, bydd siawns i aelodau'r garfan sydd heb gael dim, neu ond ychydig, gyfle i greu argraff.

Os dechreuir yn rhy fuan, yna mae siawns difetha'r pwll am amser hir.

Mae gen i hawl i dipyn o foetha bellach, siawns gen i.

Gan nad oedd ganddo ergyd lethol, gallai ei wrthwynebwyr anwybyddu ei jab a chymryd siawns gan wybod nad oedd hynny'n arbennig o beryguls.

Nid polisi i unigolion, un yma, un acw ar siawns mo hyn.

Pa siawns sydd ganddo i fod yn wahanol mewn oes nad yw tawelwch yn ei geirfa mwyach?

Ella bod 'na siawns i ddianc ffordd 'na.'

Ceir yn y gwaith hwn hefyd siawns i ailystyried rhai o ddigwyddiadau'r ugeinfed ganrif.

Siawns, er hynny, nad yw'r gwleidyddion wedi gweld bod arian yn fodd i sicrhaur cyfle i rai sydd âr ddawn i roi ou gorau.

Atebir y cwestiwn hwn trwy ddweud mai proses ystadegol yw esblygiad, sy'n dibynnu ar hap a siawns, ar gael cydweithrediad rhwng digwyddiadau annhebygol, ac ar yr angenrheidrwydd i'r rhain ddigwydd mewn trefn neilltuol.

Fe gynhyrchir y rhai cyntaf drwy gyfuno llythrennau'r chwe phentref ar siawns.

Dwin meddwl bod siawns dda gan Forgannwg yfory, meddai Alan.

Siawns nad ydym wedi ennill y frwydr honno bellach.

Roedd gan Eglwys Llanddewi Brefi well siawns i oroesi nag Eglwys Llanbadarn Fawr.

A siawns nad y'w ffaith ei bod hi wedi medru prentisio'i dau fachgen yn grefftwyr, ynddi'i hun yn profi fod 'rhyw ddefnydd anghyffredin' yn Sarah Owen.

Ond mae'r bachgen yn ddigon hen, siawns, i herio'i ewyrth, a mynd i'r coleg heb 'i ganiatad o." "Sam," meddai Snowt, "paid a siarad drwy dy het.

Ond, ta waeth, siawns nad oedd o'n haeddu'r gorau am unwaith yn ei fywyd.

Pedair plaid wleidyddol Cymru yn derbyn Adroddiad Gittins y dylai pob disgybl cynradd yng Nghymru gael y siawns i ddysgu Cymraeg.