Rhyw synnwyr uwchnaturiol bron, yn sibrwd wrtho pa bryd i oedi, pa bryd i ddechrau.
Daeth Menna ataf, a sibrwd, "Sut ydach chi?
'Aderyn ...' clywais hwy'n sibrwd, '...aderyn brith, aderyn corff, aderyn pêl, aderyn y ddrycin, aderyn yr eira ...' Yr oedd y rhestr yn ddiddiwedd.
Gallai pobl ifanc fynd at y goeden a sibrwd enw'r un roeddynt yn ei garu, ac yna byddai'r goeden yn lledaenu'r neges i'r pedwar gwynt.
"Wyt ti'n clywed rhywbeth?" "Nac ydw i." "Na finna' chwaith." "Sandra, pam rwyt ti'n sibrwd?" gofynnodd Joni, gan ddal i wneud hynny ei hun.
LIWSI: (Sibrwd) Sori!
Cefais fy nhemtio, wrth wneud darn i'r camera yn y sgwâr, i sibrwd fy ngeiriau; rwy'n siwr fod hanner y dref wedi clywed yr hyn a ddywedais.
Daeth i siarad gyda mishtir ar lan y bedd a sibrwd wrtho taw Owen, mab y Gelli, Glynarthen, oedd yn Holi'r Pwnc yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Ni chyffyrddodd ben bys ynddi o gwbl, dim ond sibrwd wrtho'i hunan (neu wrth Mam) yr ebychiad mwyaf tosturiol: 'Www Musus Williams .
Aeth y sibrwd yn ei flaen, '...brân Gernyw, brân lwyd, brith yr oged, boda dinwen...' Gair od i ddisgrifio aderyn!
Yn sydyn, wrth i ambell un ohonom sibrwd ei fod yn oedi am nad oedd taith adref ar un o awyrennau cwmni Aeroflot yn apelio rhyw lawer, byddai'r cyfan yn dod i ben, Mr Gorbachev a'i dîm yn diflannu gan adael cynulleidfa wedi llwyr ymlâdd.
I'r genhedlaeth a oedd yn cofio erchylltra'r gyfundrefn a alltudiodd filoedd o garcharorion am droseddau mawr a man, roedd sibrwd yr enw Botany Bay yn ddigon i greu hunllef.
Eto, fe fu'n ddigon dwl i sibrwd gronyn am y 'ffortiwn' yna wrth Dai Owen.
Dowch i ista fan'ma, i ni gael sgwrs, tra bydd yr actorion yn cael eu traed danyn'." Cawsom ddwy gadair esmwyth yn ddigon pell o'r llwyfan, ond dal i sibrwd a wnaethom.
"'Chlywi di moni hi'n tagu?" Gogwyddais fy mhen i wrando, ac yn sicr ddigon clywn ambell besychiad cysetlyd yn gymysg â siad grefi a sibrwd siarad yn y cefn.
Yna allan ag ef i archwilio'r dref a'i hadnoddau, a synnu bod glan y mor mor atyniadol, bod y machlud mor ysblennydd, a'r tonnau bychain, anesmwyth yn sibrwd yn rhamantus wrtho.
Pwysodd yn nes at y barrau haearn a sibrwd: 'Bedwyr!' Pesychodd y dyn, ac ysgwyd ei wallt hir o'i wyneb, ond ni ddaeth ateb.
Weithiau deuai un neu ddwy o'r cast atom ar flaenau eu traed, ac eistedd i sibrwd.
Am foment ni ddywedodd ddim, ac yna dyma fe'n sibrwd yn fy nghlust.
Edrychais arno yn syn, gwenodd gan roi ei fys ar ei geg gan sibrwd, "Karachi%.
Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .