Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sicori

sicori

Yn Ffrainc cyfrifir sicori'n fwyd hanfodol i'r sawl sy'n dioddef o'r clefyd melyn.

Pan ledaenodd yr arfer o yfed coffi ar draws Ewrop dechreuwyd ychwanegu sicori iddo, nid yn unig er mwyn lleihau'r gost ond hefyd oherwydd y gred fod sicori'n llesol.

Erbyn heddiw gwyddom fod sicori'n cynnwys fitamin A, fitamin B potasiwm, haearn, calsiwm a pheth ffibr yn ogystal â rhyw hanfod chwerw.

Ac y mae modd defnyddio sicori'n unig i wneud diod debyg i goffi.

'Cyfaill yr iau' y gelwid sicori gan Galen, y meddyg Groegaidd o'r ail ganrif OC Yn ôl coel gwlad ar hyd y canrifoedd yr oedd sicori'n medru glanhau'r corff o wenwyn.