Ar ôl ei holl ymdrechion i ddynoli Iesu yn y fersiwn gwreiddiol, dyma ef dair blynedd yn ddiweddarach yn ei ailddwyfoli - ac mae'r gerdd yn gyfoethocach ac yn sicrach ei rhediad o'r herwydd.
Sicrach - er nad cwbl sicr - ydyw fod bachgen arall addawol o dref Llanrwst ei hun, sef Edmwnd Prys, wedi bod yn ddisgybl gydag ef wrth draed caplan Gwedir y dyddiau hynny: yr oedd Prys ryw flwyddyn yn hyn na Morgan.
Ac os oedd gwythiennau'r Fraslyd, y Fowr a'r Bumcwart a'r lleill i gyd yn dipyn sicrach na thywod, eto, o'u twrio a'u tynnu oddi yno roedd y tir uwchben yn siwr o symud ryw fymryn.
Mae Caerdydd yn sicrach fyth o ddyrchafiad i Ail Adran y Cynghrair Nationwide ar ôl i banel disgyblu Cymdeithas Pêl-droed Lloegr argymell y dylai Chesterfield - sydd ar frig y tabl - golli naw pwynt.
Ac os ydyw heddiw mewn rhai ardaloedd yn wynebu argyfwng, ym mha fodd y gellid cynllunio dyfodol sicrach iddi?
Mae'n annog pob pennaeth heddlu i sefydlu polisi%au cynhwysfawr a'u gweithredu, fel y bydd eu holl swyddogion yn sicrach o'u safle pan elwir hwy i sefyllfa o drais yn y cartref.
Felly, y mae diogelwch yr epil yn sicrach o lawer mewn tir âr neu resi gardd gyfagos.
'Does dim sy'n sicrach na bod dyfodol rhaglen fel Arolwg yn ddiogel hyd ddiwedd y ganrif ac y bydd mawr a mân yn sathru'i gilydd yn eu hymryson i ymddangos arni!
Doedd yna fawr o amheuaeth mai John Walter Jones, Cyfarwyddwr y Bwrdd gwreiddiol a fyddai'n cael y gwaith - gyda disgrifiad swydd manwl a chyfnod cais byr, roedd hynny'n sicrach fyth.
A does yr un ymdrech yn sicrach o fethu na'r ymdrech i adennill gogoniant a dylanwad y gorffennol.
Credai'r ffermwr y talai'r ffordd i roi pâr o bedolau dan y ceffyl gan y byddai'r pedolau yn ei helpu i gerdded yn ysgafnach a sicrach ar ffyrdd celyd.
Eisteddai'r hen ddynes yn syth fel gard yn ei gwely gan hoelio'i llygaid arna i, Os oedd hi'n marw, nid heno y digwyddai hynny, doedd dim sicrach.
A thystiolaeth sicrach i hyn fyddai gweithiau blynyddoedd cynnar William Salesbury, yn enwedig Kynniver llith a ban.