Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.