Roedd y nwyddau ar gael yn ol y galw ond doedd dim sicrwydd pa bryd y telid amdanynt, os o gwbl.
Ef yn alto a minnau'n soprano, er na fyddai sicrwydd y byddem yn cadw at ein llinell gerddorol o gwbl.
Y noson o dan sylw, bu Miss Williams yn hir syllu drwy'r twll yn y blacowt yn ffenestr y llofft ffrynt ar lampau bus Ifan Paraffîn yn dawnsio'u ffordd yn feddw ar hyd Pen Cilan cyn stopio'n stond, ond heb wybod i sicrwydd mai bus oedd yno.
A does dim sicrwydd ei fod ef yno chwaith.
Roedd to o'r rhain, yn barod i roi eu bywyd a'u talentau i droi'r Ffydd hon yn sicrwydd.
"Buasai cau'r swyddfa ym Mangor yn ergyd fawr i ragolygion economi'r ardal, a hefyd yn gwneud drwg i ddelwedd yr Awdurdod wrth gysidro bod sicrwydd clir i'r gwrthwyneb wedi'i wneud yn barod."
Roedd amheuon, fel y dywed yr hen air, 'nid oes ond un sicrwydd', ac mae'r graig honno'n llawer cadarnach na'r haenau y gorwedd y glo yn eu mysg.
Wrth fwrw ymaith yr iaith a'r hen sicrwydd, fe'i cafodd Huw Menai ei hun fel llong ar drugaredd y byd - yn enghraifft drawiadol o beryglon newid diwylliant yn rhy sydyn.
Mae'r emynau'n cwmpasu holl gyfoeth y bywyd Cristionogol yn ei bryder a'i orfoledd, yn ei ofnau a'i sicrwydd, ei anawsterau a'i lwyddiannau, yr union bwnc y canodd mor dreiddgar amdano yn Theomemphus.
Gwr o sir Gaerefrog oedd Ferrar, er nad oes sicrwydd ynglyn â man ei eni.
Ond nid oedd bod ar lwybr dyletswydd, meddai, yn sicrwydd na cheid stormydd.
Nid oes sicrwydd am oroesiad yr ysgolion, nac am y cymunedau Cymraeg chwaith.
Ychydig o bobl a bryderai y bu rhaid rhoi pob math o sicrwydd i'r byd meddygol ynghylch hawliau'r meddygon.
A does dim sicrwydd pwy fydd wrth y llyw bryd hynny.
"Ar ôl i mi wybod i sicrwydd nad oedd neb yn y plas mi chwiliais y lle'n fanwl, a welais i'r un cŷn."
Sgwrs, paned o goffi, ac fe allen ni fod wedi ei rhoi hi yn ei gwely gyda'i sicrwydd fod rhywun yna yn gofalu amdani...
Rhan o'r rhin hwnnw yw'r modd y mae'n dal y pethau hyn yn eu sicrwydd, yn eu diriaeth.
(Yng ngwledydd Canolbarth Affrica, y mae'r tyfiant hwn yn effeithio ar blant yn hytrach nag oedolion, ac nid oes sicrwydd fod y ddau yn union yr un afiechyd.) Eto, y rheswm sylfaenol dros ymddangosiad y tyfiant yw cyfundrefn imwn ddiffygiol.
Rhoddwyd cyfweliadau personol i oruchwylwyr ysgolion Sul yn sir Gaerfyrddin a rhan o sir Benfro, ond wrth gwrs, nid oes sicrwydd bod yr wybodaeth ystadegol a roddwyd yn fanwl gywir, gan ei bod yn aml heb gadarnhad dogfennol.
O ystyried y rhesymau uchod mae'n dda efallai fod gan rai economyddion y fath sicrwydd, oblegid mae yna ddigon o anffyddwyr o gwmpas.
Nid oes sicrwydd, er enghraifft:
Yn ôl yr adroddiad cafwyd sicrwydd na fyddai gostyngiad yn lefelau cynnal a chadw y rheilffordd ond ni chafwyd sicrwydd gan y Rheilffyrdd Prydeinig ynglŷn â chodi dynodiad y rheilffordd o felyn (a oedd yn golygu na fyddai'r trac newydd yn cael ei osod ond na fyddai gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at breifateiddio os oedd hynny'n digwydd) i reilffordd werdd (a olygai ychydig o adnewyddu trac newydd ac y byddai hyn yn gwella amseroedd siwrniau).
Mi hoffwn y sicrwydd y bydd ysgol Cai yn ysgol gymunedol gref â dyfodol diogel ac y bydd yn derbyn addysg gyflawn Gymraeg.
Ac mae sicrwydd hefyd wedi ei roi yn ddiweddar y bydd y rhaglen cwlt o'r chwedegau, The Prisoner, yn cael ei wneud yn film ym Mhorthmeirion y flwyddyn nesaf.
'Doedd clywed mam a nhad yn ffraeo byth yn ein poeni ni fel plant, gan y gwyddom i sicrwydd na fyddai'r ffrae yn para yn hir iawn, mi fydda sylwadau doniol nhad, neu rhyw edrychiad slei, yn toddi mam.
Gan fod cymaint ohonom, cymaint o unedau gweddol unffurf, mae yna debygolrwydd fod y rhan fwyaf o'r hil yn mynd i ymateb mewn modd y gellir ei ragfynegi gyda pheth sicrwydd.
Y mae sicrwydd y gwyddonydd yn gorffwys bellach nid ar unrhyw ddatguddiad dwyfol ond ar effeithiolrwydd y method gwyddonol.
Yr unig beth y gellir ei ddweud gyda sicrwydd ar sail hyn yw fod nifer y bobl a âi i wasanaethau'n tueddu i fod yn fwy na nifer yr aelodau.
Bendith nid bychan oedd medru cysgu'n dawel trwy un noson, ac yr oeddwn i yn ffodus yn hyn, er nad oedd dim sicrwydd byth wrth noswylio pa fath o noson a gawn.
Pe collid yr ysgolion hyn, a'r plant yn cael eu symud i ysgolion mewn pentrefi eraill yn ôl cyfleustra gweinyddwyr a chyfrifwyr, byddai'r plant yn cael eu hamddifadu o rai o gonglfeini'n haddysg gynradd - sef y sicrwydd o berthyn a chael eu hadnabod a'r gallu i gydweithio.
Ond serch hynny, yn y claf arferol 'does dim sicrwydd o ble y mae'n dod.
Yr unig garnedd yn y cyffiniau yw Carn Ricet ac fe all, er nad oes sicrwydd, mai honno oedd Carn yr Herwyr.
Yn anffodus, nid yw'r fath sicrwydd am destun y Gododdin i'w gael, ac fe allai'r cyfeiriad at Arthur fod wedi ei wthio i mewn iddo yn ddiweddarach.
Ond gwn i sicrwydd i mi ddefnyddio'r gair gwareiddiad.
Wyddon ni ddim i sicrwydd beth a ddigwyddodd.
Ond prin yr oeddwn wedi cael sicrwydd y medrwn astudio yma ac wedi dechrau hel fy mhethau at ei gilydd pan dderbyniodd y bonwr Schneider wahoddiad i dreulio cyfnod fel awdur gwadd - yn Abertawe.
Ond rhyw ysbrydion amwys, anniddorol oedd y rhain - rhyw greaduriaid ffansi%ol, yn symud fel pe o dan blanced wen, ac mor ddigymeriad fel nad oedd modd gwybod eu rhyw, hyd yn oed; ac yn wir doedd dim sicrwydd fod ganddyn nhw ryw.
Ond ar y cyfan cyflawnodd y gyfundrefn wasanaeth mawr drwy roi sicrwydd i lefel prisiau allanol mewn byd lle yr oedd prisiau mewnol yn newid yn weddol raddol; ac yn ychwanegol fe orfodwyd ambell i drysorlys i gadw ei fantolen yn fwy gwastad.
Rhaid i mi gael gwaith a mwy o sicrwydd." Yr oedd y plant yn fud.
Ni wyddys i sicrwydd ymhle os nad yn y Gydros, Llanfor, Sir Feirionnydd.
Yn dilyn y newyddion, mae Ieuan Wyn Jones, AS Ynys Môn, wedi gofyn am sicrwydd gan gadeirydd yr Awdurdod, David Rowe-Beddoe, y bydd y swyddfa'n aros yn agored.
Diau na all Ms Clwyd gysgu'n dawel yn y sicrwydd ei bod hi wedi ein rhybuddio ni am gamweddau ein gweithredoedd.
Prin y disgwylid i grwtyn chwilfrydig gydymffurfio a'r gwarharddiad.Fe wn i un peth i sicrwydd, i mi, wrth glustfeinio yno, ddod i wybod aml gyfrinach.Ehangwyd fy ngeirfa aflednais a ddeuthum i ddyfnach adnabyddiaeth o gymdeithas ddauwynebog y Cei.
Nid oes sicrwydd iddo gyfieithu unrhyw ran o'r Hen Destament na'r Newydd.
Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd.
'Dan y cynllun newydd bydd sicrwydd bod wyth bob tro yn chwarae yn erbyn yr wyth ucha.
Yn ôl y Cyfarwyddwr, Gareth Jams, roedd ganddyn nhw addewid nawdd tan ddiwedd y mis ond dim sicrwydd o ddim ar ôl hynny.
Rhaid i chi beidio ag aberthu yr un darn - hyd yn oed un gwerinwr bach - yn yr agoriad heb fod gennych sicrwydd y byddai 'aberth' felly yn rhoi mantais glir i chi.
Ac fe benderfynwyd ein bod ni'n rhyddhau Dr Hort o'i waith gyda ni 'ma nes bydden ni'n cael sicrwydd nad oedd Hitler yn paratoi am ryfel.
Yr oedd arno eisiau cael sicrwydd am droad y ddaear o gwmpas yr haul.
Waeth beth arall ddigwyddith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yr wythnos nesaf, fe ellir dweud i sicrwydd y bydd hi'n Eisteddfod hanesyddol, oherwydd fe fydd gan S4C Digidol y ddarpariaeth deledu fwyaf cynhwysfawr a fu erioed o unrhyw Eisteddfod Genedlaethol.
Dim ond un ateb a wnâi'r tro i gleient a chwiliai am sicrwydd - 'Mi fentra i bopeth sy gen i ar hynny'.
Adroddodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Thai nad oedd sicrwydd y byddai'n gallu mynychu'r cyfarfod.
"Petae gen i sicrwydd o ryw bunt neu ddwy yn dyfod i mewn bob wythnos yn gyson, mi fentrwn hi, ond fel y mae .
'Doedd yna ddim sicrwydd felly.
Llam ffydd oedd bod yn Gristion iddo, ac fe ddywedodd yn ddifloesgni na bu ganddo sicrwydd erioed:
Edrychwn ymlaen at ein degfed penblwydd gyda'r sicrwydd ein bod yn cynnig ffordd pendant o adfer yr iaith trwy gynnal gweithgareddau a chyfleoedd sy'n dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd.
Ymddangosai Alun Michael yn ddiffuant o ddiolchgar iddi am gyfraniad amserol a rhoddodd sicrwydd fod pob hawl i aelodau'r Cynulliad berthyn i'r Seiri Rhyddion ond na allent ddisgwyl bod uwchlaw arolwg.
Roedd Helen Mary Jones am sicrwydd - yn Saesneg - y byddai lefel bresennol y gwasanaethau yn adran ddamweiniau ac argyfwng Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn parhau.
Efallai mai ei anhwylder â'i gorfododd i roi'r gorau i ffarmio'r Hafod er na wn i ddim i sicrwydd.
Does neb yn gwybod i sicrwydd sut yn union y ffurfiwyd yr haenau amlwg yma, ond mae yna sawl damcaniaeth.
Ac yn goron ar y cwbl gwelwyd cyhoeddi'r Cytundeb mewn Gwyddeleg gan y Llywodraeth -- ac fel ymarfer ar gyfer y dyfodol roedd yn rhaid gofyn yn arbennig amdani, a chwedyn nid oedd sicrwydd y byddai'n cyrraedd.
Roedd Mynydd Mwyn yn rhoi iddo gartref a sicrwydd a'r wlad o gwmpas yn cynnig amrywiaeth di-ail o olygfeydd: tiroedd gwastad Môn, wybren lawn golau, mynyddoedd a môr, y cyfan yn newid yn gyson i gyfeiliant y ffryntiau tywydd a sgubai drosodd o'r Iwerydd.
Mewn dau air - sicrwydd a disgyblaeth.
Daliai hi i gael pyliau anniddig ynglŷn â'i ymddygiad pan ddarganfu lun ei wraig ac 'roedd sicrwydd di-lol Lleucu'n ei sicrhau hithau hefyd.
Ond gwn i sicrwydd na ddywedais fawr ddim, oblegid fy mod i 'radeg
Euthum i ddrws y tŷ-capel i mi gael sicrwydd fy mod i ar y ffordd iawn.
Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.
Mae'n wir fod Morgan Llwyd gyda'r blynyddoedd wedi amodi ei Galfinyddiaeth sylfaenol mewn ffordd a oedd yn anghymeradwy gan Cradoc a Vavasor Powell ond ni wnaeth hynny ddim i liniaru ei sicrwydd mai trychineb anaele oedd tynged y sawl a wrthodai gredu'r neges.
Meddyliwch am y llogau gewch chi ar ddau gan mil, digon i'ch cadw chi'n ŵr bonheddig weddill eich oes, digon i roi sicrwydd i'ch mam.
Simsanodd yr hen sicrwydd felly sut mae cynnal gwaith a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylchedd iach yr un pryd.
ù Dim sicrwydd o waith neu yrfa yn lleol.
Ychwanegodd bod y trefniadau ariannol yn edrych yn gadarnhaol ond nad oedd sicrwydd o'r sefyllfa hyd ganol Rhagfyr, ond bod yn barod symud ymlaen gyda'r pryniant yn syth.