Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sidan

sidan

Fel pob gwraig yr oeddwn wedi darparu dillad i'r babi wythnosau cyn ei eni ac yr oeddwn wedi gwneud coban o sidan gwyn addurniedig.

Charlie wedi prynu llond cês o grysau sidan ym Mharis.

Cyfres o bedair pennod awr o hyd fydd Y Wisg Sidan gyda Betsan Llwyd yn brif gymeriad.

Roeddynt wedi eu gwisgo mewn sidan lliw eirin gwlannog wedi eu haddurno a les gwyn ac yn cario blodau gwyn ac eirin gwlanog.

Er gwaethaf llwyddiant etholiadol y Bloc, ni all plaid ffederal ddod â sofraniaeth i Que/ bec yn uniongyrchol, dim ond y senedd yn ninas Que/ bec gwþr busnes o Dwrci ac Iran eisoes yn y wlad yn elwa ar gysylltiadau oesol â'r hen ffordd sidan, ac yn awr yn sugno i'w côl fasnach oedd gynt dan reolaeth ganolog Moscow.

Fe welwn ni'r ddwy ddraig yn codi o'r twll cyn bo hir, ond paid â bod ofn, welan nhw mohonan ni yn cuddio yn y fan yma." "Ond pam y medd a'r sidan?" "Wel, fe fydd y ddwy yn ymladd heno a bron â thagu eisiau diod.

Cyrhaeddai adre o'r môr yn llwythog; creiriau'r Almaen a Ffrainc i ymuno â'r rhai oedd yma'n barod o'r India, Japan a lleoedd pellennig eraill - ambarel o ffasiwn newydd a blygai'n dwt i fag llaw fy Mam; llathenni o sidan i wneud ffrogiau i Mam a minnau; melfed wedyn i wneud trowsusau "dydd Sul" i 'nau frawd.

Taflodd rhywun siôl sidan un o'r merched tua'r nenfwd, a daeth sgrechiadau o chwerthin oddi wrth y grþp bychan o'u cwmpas yn gwylio'r dilledyn yn hedfan i lawr i'r llawr yn araf.

Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.

yn wenithfaen i gyd gan fod yn ei gyfansoddiad cymysg Iechfaen gwyrdd o ansawdd rhagorol -y 'greens', fel y'i gelwir--a hollt 'fel sidan' ynddynt.

Fe suddan nhw drwy'r sidan ac yfed y medd." "Ie ..." "Beth mae medd yn wneud?" "Gwneud i bobl feddwi?" "Yn union!

Rafflwyd y trefniannau sidan ar ddiwedd y cyfarfod a phenderfynodd yr enillydd, sef Mrs Jean Clarke, roi ei gwobr i gynaelod sydd ar hyn o bryd yn gaeth i'w thy.

Wrth ymyl y twll mae eisiau rhoi'r badell fwyaf y medri di gael hyd iddi, ei llenwi hi gyda medd ac yna ei gorchuddio gyda sidan." A dyna'n union wnaeth Lludd.

Ymladdodd y ddwy ddraig, yfed y medd, meddwi a chael eu lapio yn y sidan.

Eithr am yr hen Seren yma...Gwir bod ei hanadl mor bêr â gwair, a'i blew fel sidan coch cynnes; ond yr oedd ei llygaid mor eiddgar â'i thafod.

Gwyliau i wirioneddol ymglywed â hanes ar gerdded hyd lwybrau yr hen 'ffordd sidan' fu'r egwyl yn Uzbekistan, a gwyliau i synhwyro y bydd hi a'r gweriniaethau cyfagos yng Nghanolbarth Asia yn dod gwygwy i'n sylw cyn y bydd y chwalfa Sofietaidd yn dirwyn i ben.

"Bombacha% a "boots" duon, cot dywyll, het ffelt ddu a hances sidan wen am eo wddf.

Ers rhai wythnosau mae'r hen blasdy yn cael ei defnyddio i ffilmio cyfres wedi ei seilio ar nofel Y Wisg Sidan gan Elena Puw Morgan.

Ar unwaith dywedais am y goban sidan a chladdwyd ef ddiwrnod cyn y Nadolig.

Siapiodd ei bysedd medrus sgwariau o ddefnydd a'u troi yn rhosynnau sidan fel rhai byw a phennau blodau lliwgar tra'n siarad am yr hobi cyfareddol hwn.

Yn ddiweddar, cynhaliwyd gweithdai paentio ar sidan gan Heather Lowe a gweithdy sgetsio adar gan Philip Snow.

Ar ôl blynyddoedd o ymdrin â bwganod, mae'r arswyd hyfryd o allu cysylltu ag ysbrydion yn f'atgoffa bob amser o sŵn frou-frou gwisg sidan Miss Jones Bach a'r oglau arogldarth yn gymysg â pheli gwyfyn.

"Reit Llefelys, mae popeth yn barod, y twll, dysglaid anferth o fedd a sidan tenau - a drud hefyd os caf i ddweud - drosti.

Ond yn suth ar ol gorffen Y Wisg Sidan bydd cwmni arall o Gaernarfon, Ffilmiau'r Nant, yn symud yno i ddechrau ar y gwaith o baratoi cyfres arall ar gyfer sianel pedwar.

Llafur breichiau caethwas bwrcasodd eich lleni o sidan a moreens o liw glas, porphor ac ysgarlad; a'ch carpedau amryliw o weithdai Kidderminster a Brussels.

Yr unig beth fydd eisiau i ti ei wneud wedyn fydd lapio'r ddwy yn y sidan a'u claddu nhw mewn lle diogel.