Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siffrwd

siffrwd

Dechreuodd fel gwichian a siffrwd wedyn troes yn sgrechian a sŵn rhuthro.

Toc, clywn siffrwd traed yn tuthian ar draws y leino o'r tu ôl, ac yn sydyn dyma drywaniad yn serio drwy fy meingefn, ac ar yr un eiliad yn union y meddyg yn bloeddio 'Sori!' Rwy'n barnu mai honno oedd y boen corff fwyaf dirdynnol a brofais erioed.

dan ei thraed gwichiai a chleciai'r brigynnau coed, ac o rywle deuai siffrwd tyner annirnad i dorri ar y distawrwydd.

Yna, mewn eiliadau, fe fydden ni'n gallu gweld golau egwan ei lantern a chlywed sŵn siffrwd ei gwisg laes ar y palmant ac oglau fel arogldarth Capel Pab yn gymysg â pheli gwyfyn fy nain.

Ond boddwyd siffrwd y dail gan ru peiriannau gwib-jetiau'r Lleng Ofod yn dychwelyd o'u cyrch yn Anaelon.

Y tu mewn, roedd swyddogion llywodraeth a'u teuluoedd yn symud i'w seddi, gyda'r math o siffrwd parchus a gewch chi mewn digwyddiadau ffurfiol o'r fath.

Yn sydyn clywodd sŵn bach ar y landin: sŵn fel sŵn piffian neu siffrwd.

A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.