Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sifil

sifil

Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd The Office yn olwg dreiddgar y tu ôl i'r llenni ar y Swyddfa Gymreig oedd yn dangos gweision sifil wrth eu gwaith yn datblygu ac yn llywio'r ddeddfwriaeth ac yn trafod cartref y Cynulliad.

Ffermwyr cefn gwlad, ysgolheigion, athrawon a gweision sifil oedd swmp y siaradwyr Gwyddeleg ers oes.

Gweithwyr y rheilffordd a gweithwyr sifil yn mynd ar streic.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol 'Y Sul Gwaedlyd' yng Ngogledd Iwerddon pan daniodd milwyr Prydain at orymdaith hawliau sifil yn y 'Bogside' a lladd 13.

Yr ydym yn erbyn stigmateiddio menywod yn y modd hwn, a thramgwyddo eu hawliau sifil.

Bydd hi'n fraint i gael gwrthod talu, dros y ddau ymgyrch hawliau sifil agosaf at fy nghalon.

Y ffaith i'r term ymddangos yn hanes yr hen fwrdeisdrefi a sbardunodd y cyn was sifil i fentro i faes yrnchwil oedd yn galw am gryn ymroddiad.

Yn naturiol fe fyddai peth rhegi ysgafn gan glercod yn chwilio am eiriadur a chan ferched teipio yn dysgu sbelio, ond y mae'r gwasanaeth sifil wedi hen ddysgu derbyn chwyldroadau yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o'r drefn feunyddiol.

Yn ogystal â chynnig gwasanaeth tosoturiol, ymarferol ar gyfer menywod a phlant sy'n dioddef trais, rhaid i'r mudiad ymgyrchu i wella cyfreithiau sifil a throseddol i'w diogelu a'u hamddiffyn.

'Roedd Rhyfel Fietnam wedi dod i ben, ac 'roedd hawliau sifil y duon yn America wedi gwella.

Fe lofruddiwyd miloedd o ddoctoriaid, gweision sifil, athrawon ac artistiaid.

Pan fo un plaid mewn awdurdod am ddegawd a rhagor yn ddi-dor gall y gweision sifil mewn adran gymharol fychan lithro i rigol meddwl sy'n eu dallu rhag gweld rhinweddau'r gwrthddadleuon.

Mae hyn yn arwain at yr ail fesur a gynigiwyd gan Gomisiwn y Gyfraith sef eu hadroddiad, 'Trais yn y Cartref a Meddiant y Cartref Teuluol, adolygiad o'r gwahanol ddeddfwriaeth bresennol sy'n cynnig meddyginiaethau sifil yn erbyn trais yn y cartref.

Am fod Eglwys Loegr yn sefydliad gwladwriaethol Seisnig, ac y rhai a fynnai fod yn angymdeithas sifil Seisnig, ystyriwyd y rhan a fynnai fod yn annibynnol arni, boed y rheiny yn Annibynwyr, yn Fedyddwyr, yn Bresbyteriaid neu'n Grynwyr, yn fygythiad i'r drefn wladol Seisnig, gyda digon o reswm fel y dangosodd Cromwell.

Gellir cynnig y Gymraeg ar gyfer arholiad y gwasanaeth sifil.

Er bod yr iaith yn destun gwawd ac ymosod barnwyr ac esgobion a gweision sifil, ni chododd neb i fynnu ei hawliau iddi yn y Senedd nac ar lwyfan.

Pe hawliai Cymru o ddifri gael y Gymraeg yn iaith swyddogol gydradd â'r Saesneg nid o du'r Llywodraeth nac oddi wrth y Gwasanaeth Sifil y deuai'r gwrthwynebiad.

Mae'r Gweinidog Materion Cymreig yn gwneud a fedro gyda chymorth adrannau o'r gwasanaeth sifil i hybu'r polisi hwn; nid yn ofer chwaith.

A be sy gen ti i ddeud wrth y rheini a thitha wedi treulio oes yn y byd academaidd ac yn y Gwasanaeth Sifil?

Ond, wrth gwrs, yn wyneb gofynion y Ddeddf Uno, Saesneg fyddai iaith llys, marchnad, cyfraith a gweinyddiad sifil.

Peiriannydd sifil o bentref ger Kirkuk yng ngogledd-ddwyrain Iraq oedd Azad Khder, a fu'n cerdded am bythefnos cyn cyrraedd Piranshahr.

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!

Ond yma yng Nghymru y cwbl a oedd gennym oedd un diwrnod i Gymru yn y Senedd bob blwyddyn, cyfarfod o benaethiaid y gwasanaeth sifil, a Chyngor Ymgynghorol nad oedd yn cynnwys ond yn unig aelodau wedi eu henwebu gan y Prif Weinidog ei hun.

Yma ac acw, gwelwn lawer o fechgyn a dynion mewn dillad sifil o gwmpas y stesion ac amheuwn eu bod yn yr un sefyllfa â minnau ac yn mynd i wersyll i ryw gyfeiriad neu'i gilydd.

Dylair cyhoedd fod yn wyliadwrus o'r hyn y mae gweision sifil yn ei alwn arbenigwyr.

Bod yn ofalus, yn ddoeth, ac yn ddiplomyddol, dyna aeth â mi i uchelfannau'r Gwasanaeth Sifil, mae'n debyg; hynny a chryn dipyn o allu ymenyddol, medden nhw.

"Fe gafodd y mesur i sicrhau ein hawliau sifil ei siarad allan fel nad oedd modd pleidleisio arno," meddai Sian Frost.

Cyfyngodd ar hawl yr undebau i fynd ar streic, collodd miloedd o weithwyr sifil eu swyddi wrth i fiwrocratiaeth gael ei chwtogi, a chafodd pob gwrthwynebiad i'r chwyldro newydd ei ateb gan fygythiad y rhoddid awdurdod llwyr yn nwylo Menem pe bai angen.