Cyfarfod ac ysgwyd llaw efo pawb, araith hanner awr heb nodyn a'r gymeradwyaeth yn siglo'r adeilad.
Wrth i mi baratoi'r ddarlith hon yr ymateb a gawn, gan y canol oed yn ogystal a'r hen pan soniwn am y testun, oedd 'Fe gefais siglo llaw ag Elfed' neu 'Fe glywais Elfed yn pregethu sawl tro', a'r son wedyn, bron yn ddi-ffael, am y llais swynol i'w ryfeddu a oedd ganddo.
"Ble mae Bwrdd yr Iaith?" Erbyn hyn, saith mis ar ôl dechrau gweithio'n statudol, mae swyddogion gelynion penna'r cwango iaith yn siglo'u pennau ac awgrymu na ddylech chi ddisgwyl dim arall ond distawrwydd a diffyg gwneud.
Mae'n rhaid i Bwyll ddysgu sut i feddwl cyn gweithredu, rhaid iddo fod yn ofalus, a bod yn ddigon gostyngedig i ofyn yn lle gorchymyn; ond, er hynny, mae'n ddyn da, mae'n gyfaill ac yn briod ffyddlon, gŵr cyfiawn na ellir ei siglo gan farn ei foneddigion.
Yn awr, wrth i ferch Kitchener Davies, Manon Rhys, baratoi at addasu Cwmglo ar gyfer y llwyfan modern, mae yna nofel a drama arall a allai siglo'r sefydliad.
Wedi cyfarchiad neu ddau, safodd wrth ben y bwrdd, ei ddwylo'n ddwfn ym mhocedi'i gôt fawr, ei draed ar led a'i gorff yn siglo o'r naill ochr i'r llall.
Y byw arwynebol hwn oedd yn cael ei fygwth a'i siglo wrth inni edrych o ddifrif ar waith Paul Davies.
Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.
Chwerthin a chwerthin ddaru ni, a finnau'n mwynhau edrych ar Bigw yn hapus, ei gwallt newydd yn siglo yn ôl a blaen fel pendil, a'i dannedd gwyn yn y golwg.
Clywodd y ferch yn gwneud sŵn rhyfedd wrth siglo'n ôl a blaen.
Ar drothwy'r grisiau, sylweddolodd Gethin unwaith eto pa mor bell o'r ddaear yr oeddynt, a dechrau siglo'n benysgafn.
Roedd y siâp yn symud ychydig, rhyw siglo yn ôl ac ymlaen ac yna i'r ochr.
'Sut ydych chi yn beiddio gwadu fi!' Erbyn hyn roedd y chwilen dew yn dawnsio'n wyllt yn ei chynddaredd, yn siglo o ochr i ochr dan wthio'i habdomen yn erbyn tarian ei hadenydd i greu sūn suo gwirion.
Roedd rhywbeth cyfareddol yn y modd y byddai'n siglo'n ôl ac ymlaen ar ei stôl deirtroed i guriad y corfannau, yn gwichian canu ac yn dal i nyddu ar yr un pryd.
'Stedda yn y canol.' 'Paid â siglo gormod.'
Yn wir, dyma'r gair allweddol a ddefnyddiwyd gan ddiwinyddion amlycaf Ewrop i ddisgrifio siglo sylfeini cred.
Roedd pobol yn eistedd arni'n ddigon aml ac ôl penolau sawl Ysgrifennydd gwladol i'w gweld ar ei chlustogau; weithiau, mi fyddai'n siglo ar ei phen ei hun fel petai yna ryw law anweledig yn ei gwthio; ambell dro prin, yn ôl y dyn ei hun, mi styfnigodd hi a gwrthod symud.
Confucius a ddywedodd; "Eistedd i lawr mewn hedd - Os siglo y bo'r gadwyn Cynhesach fydd y sedd." Glyn Roberts (Llanarmon Dyffryn Ceiriog)
Ac yno y maent yn siglo mor ddiymadferth â'r gwymon gyda'r cerrynt.
Am flynyddoedd mi roedd yno - cadair siglo ddigon cyffredin, yn tynnu sylw neb.
Felly pan glywch chi rybudd i beidio siglo'r cwch peidiwch a meddwl am funud mai dyna'r tro cyntaf i'r alwad honno gael ei gwneud — fe'i gwnaed droeon dros y blynyddoedd.
Troi a siglo fel un, yn gytun ac yn wefr i gyd.
A mae llai na hynny er pan mae'r llong yma'n siglo fel mae hi
Cryd yn siglo.
Ar ryw olwg nid yw llenyddiaeth sy'n siglo cyfforddusrwydd rhagdybiau'r darllenwyr yn mynd i gael croeso twymgalon.
Fe gychwynnodd y Mini ar y taniad cyntaf, a chyn pen dim yr oeddwn i'n gyrru drwy'r dref a heibio eglwys Y Santes Fair, ac i'r wlad, a'r fraich sychu'n siglo'n ol a blaen fel peth gwyllt ar y ffenestr o flaen fy llygaid i.