Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

silffoedd

silffoedd

Ond nid holodd yr un o'r ddau a ddymunwn iddyn nhw archebu copi imi nac awgrymu pryd y byddai copiau yn ôl ar y silffoedd.

Meddai Gill Brown, cyn athrawes gelf a chrefft sydd bellach yn Reolwr Datblygu Sgiliau Personol a Chymdeithasol yr Antur, 'mae hyn wedi rhoi hyder anhygoel iddyn nhw.' Mae'r siop yn ddeniadol, a'r silffoedd yn llawn o nwyddau amrywiol.

Parodd streic y gyrwyr loriau i silffoedd a chistiau'r siopau mawr gael eu gwagio'n noethlwm hyd at y fframau.

Y silffoedd llawna' oedd y rhai ble'r oedd pobl gyffredin yn dod â nwyddau i'w gwerthu .

'Democratiaeth wedi mynd yn wallgof, 'ddyliwn i.' Pwysodd yn ôl yn erbyn y silffoedd a oedd bron â chyrraedd y nenfwd, gan sipian ei goffi.

Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai'r hylif fod yn ôl ar silffoedd y siopau amaethyddol.

awgrymwyd a ffwrdd a ni i grwydro rhwng y silffoedd a mwynhau sgwrs, coffi a myffin.

Wedyn, rhwng y gwahanol silffoedd o lyfrau y mae digonedd o gadeiriau esmwyth y gall rhywun ymlacio ynddynt tra'n pori trwy lyfr.

Goleuwyd canhwyllau mawer ymhob pen i'r stafell, ac wrth eu golau, gwelodd Rowland silffoedd o lyfrau yn ymestyn o un pen i'r llall, cannoedd ar gannoedd ohonynt.

Ym awr y pum cyfrol sydd ar y silffoedd at yr Eisteddfod eleni a chyn belled ag y mae'r fasgedaid hon o stori%au byrion yn y cwestiwn, rydyn ni'n dechrau ar ddiwedd y broses yna ac yn symud ymlaen, dybiwn i, at gyfnod gwahanol eto, cyfnod ansicr iawn ei gyfeiriad a chymysglyd ei natur.

Tu cefn i un o'r silffoedd llyfrau yr oedd caead bach a man cudd tu ol iddo i gadw pethau gwerthfawr.

Ar amrantiad dywedir a yw ar y silffoedd neu allan o brint neu ar gael o'i archebu gan nodi faint o ddyddiau a gymer iddo gyrraedd.

Hyfryd oedd gweld y llyfryn bach hwnnw, Mere Christianity, o eiddo C.S. Lewis, yn cael lle mor anrhydeddus ar y silffoedd.

Gwthiodd ei ddwylo i'w bocedi a chrwydro o gwmpas, gan gamu dros y ffeiliau a mynd at un o'r silffoedd.

Ystafell fechan, bur dlawd ac anhrefnus yr olwg, oedd hi, â silffoedd llyfrau wrth un mur, ac yn y gongl ddesg uchel, lydan i daro papur newydd arni, ac yn y canol fwrdd a rhai cadeiriau wrtho.

ond yr hyn sy'n gwneud y siop yn dra anghyffredin erbyn heddiw yw y silffoedd dan bwysau poteli o faco.