Y ddamcaniaeth fwyaf poblogaidd yw bod curiad y silia a'r fflagela'n golygu bod y ffibrilau'n llithro dros ei gilydd yn hytrach na chyfangu fel y tybiwyd gynt.
Nid wyf eto wedi gallu meddwl am unrhyw reswm pam mae'r silia o badiau gwahanol wedi eu trefnu mewn parau fel hyn.
Yn yr ail, mae'r silia i gyd yn tarddu o gelloedd nerfau.
Silia yn cydgysylltu.
Fy rheswm dros eu cynnwys yn yr erthygl hon yw eu bod yn enghraifft arall o swyddogaeth silia.
Os bydd un siliwm sengl hir yn gysylltiedig a'r cudyn silia, bydd bob amser yn codi allan o gell sengl sy'n ffinio ar y clwstwr celloedd.
Fodd bynnag, mae swyddogaeth y cudyn silia yma yn dal i'm poeni ac fe'i gadawaf yn y fan yma am y tro.
Cafwyd tystiolaeth i ategu hyn oddi wrth doriannau trwy flaenau silia.
Rhai blynyddoedd yn ol, archwiliwyd y cirysau ochrol blaen yn y miscrosgop electron ac ymddengys bod pob cirws yn tarddu o un gell, a'i fod yn cynnwys dwy res gyfochrog o silia.
Ym myd yr anifeiliaid mae llawer o enghreifftiau lle mae silia yn cael eu defnyddio fel derbynyddion synhwyro.
Silia fel derbynyddion synhwyro.
Mae silia mor gyffredin trwy fyd yr anifeiliaid a'r planhigion nes bod astudio unrhyw organeb sy'n byw yn y mor, yn hwyr neu'n hwyrach, yn sicr o gynnwys rhyw fath ar ddealltwriaeth o'r organebau hyn.
Yn y ddisg ddidoriad, hynny yw, pan fo'r ddau bad ynghlwm, fe drefnwyd y silia mewn parau.
Yn y cudynnau hyn mae'r silia yn tarddu o gell sengl sy'n amgau cell chwarren.
Ond rwyf wedi dweud digon i ddangos bod silia, er eu bod mor fach ac mor syml, mae'n debyg, yn gallu amrywio yn eu ffurf a'u swyddogaeth yn helaeth iawn.
Yn yr erthygl hon byddaf yn egluro rhai agweddau ar silia ac amrywiaethau ar y thema gyda golwg arbennig ar y grwp pwysig hwnnw o anifeiliaid y mor, Y Deufalfiaid.
Ond fel mae'r microscop electron trawsyriant yn dangos, silia byr, syth ydynt.
Dyna, felly, grynodeb o'n gwybodaeth am ffurf siliwm ac, wrth gwrs y cwestiwn pwysig bellach yw beth mae hyn oll yn ei ddweud wrthym am beirianwaith symudiad silia?
Beth am y trydydd math o gudyn silia sydd wedi ei drefnu mewn cylch?
Gall fod gan y silia byr hyn yr holl gyfarpar hanfodol ar gyfer symud neu beidio, ond os yw blaenau'r ffibrilau sy'n ffurfio pob siliwm wedi'u cydio'n dynn yn ei gilydd, yna rhwystrir y ffibrilau rhag llithro dros ei gilydd.
Addasiad cyffredin yw lle mae nifer o silia yn cyfuno gyda'i gilydd i ffurfio cirws er mwyn rhoi anystwythder lle mae angen hynny.
Fel y gwyr y rhan fwyaf, pethau tebyg i flew yw silia a fflagela, yn nodweddiadol yn symudol gan weithredu i yrru'r organeb drwy'r dwr neu i yrru'r dwr heibio i'r organeb, ac maent ers amser maith wedi denu sylw biolegwyr.
Wrth astudio'r cudynnau silia hyn ar dentaclau fe ddeuthum ar draws y drydedd amrywiaeth.
Silia yn rheoli symudiad dwr.
Archwiliwyd perthynas y gwahanol grwpiau hyn o silia a'r celloedd gwaelodol, gan ddefnyddio'r microscop electron trawsyriant.
Enghraifft o addasiad o'r math yma yw'r silia, neu girysau ochrol-blaen ffilamentau tagell y Deufalfiaid.
Fe allai hyn fod yn wir hefyd am y cudynnau ansymudol o silia ar y tentaclau.
Dyma felly yr ail amrywiaeth, swyddogaeth silia fel derbynyddion synhywro.
Yn y padiau clwm mae'r silia yn dal i geisio curo ac mae yna blygu a sythu rhythmig yn y padiau sy'n awgrymu gweithgaredd cyhyrau.
Silia yn ffurfio cirysau.
Dyna, felly, fraslun byr o ffurf a gweithgaredd silia ac fe'i bwriedir fel rhagarwiniad i ystyriaeth o amrywiaethau yn ffurf a swyddogaeth y siliwm yn y Deufalfiaid.
Yn y dagell fyw, mae pad o silia gwahanedig sy'n symudol ac mae ganddynt guriad effeithiol sy'n rheiddio o ganol y pad.
Yn gyntaf, mae'r silia i gyd yn ansymudol, gan gynnwys yr un siliwm hir.
Fe gysylltir ffilamentau tagell Deufalfiaid megis, y Gragen Las, gan badiau neu frwsus silia sy'n cydgloi.
Gallai'r rhan drwchus ym mlaenau'r silia gryfhau'r adrannau hyn ond gallai fod iddi arwyddocad arall hefyd.
Silia - Amrywiaeth ar Thema.
Ceir cudynnau o silia ansymudol ar dagellau'r holl Ddeufalfiaid a chredir bod iddynt swyddogaeth synhwyro ond mae'n anodd eu harchwilio yma ar y dagell gan fod cymaint o silia symudol yn bresennol.
Ar y pryd, edrychai yn beth digon rhwydd i ddarganfod y peirianwaith sylfaenol a reolai weithgaredd silia.
Mae silia yn chwarae rhan y llygaid llawer o anifeiliaid a hefyd yn organau cydbwysedd anifeiliaid.
Awgrymir bod y silia hyn yn gweithredu fel dyfais rhag llithro neu groeswasgu, rhywbeth yn debyg i deiar a stydiau dur ynddo ar fodur.