Tua'r Nadolig, gan nodi'n fanwl y dydd o'r mis, wedi iddi nosi ac i'r sêr ddod i'r golwg, aeth i weirglodd Ty'n y Gilfach, gan ddwyn polyn gydag ef, a gosododd y polyn mewn llinell unionsyth â simnai y tŷ a rhyw seren sefydlog yn y gogledd.
Wrth iddo edrych i fyny dyma Iolo'n gweld y to teils a'r simnai 'ni fagai fwg'.
(Rhuthrai'r gwynt drwy'r buarth caregog tu allan i'r ffenestr hir, a fflamau'r tân llydan yn ymestyn i fyny ceg y simnai fawr.
Ymhen wythnos neu ragor, elai i'r weirglodd, a hi yn nos a'r sêr yn y golwg, a byddai raid symud cwrs ar y polyn i'w gael ar linell y simnai a'r seren.