Awgrymu'r wyf bod angen yr un "weledigaeth" ar ran y gwyddonydd i greu ei sinthesis yntau.
Hynny yw, sinthesis o brofiadau gwahanol, oedd yn gwbl amherthnasol cyn iddo eu crisialu a'u patrymu.
Pa mor wahanol felly yw'r gwyddonydd a'r bardd, sy'n galw'i sinthesis yn soned neu delyneg, dyweder.