Aeth hi ag ef i'r gegin a gellir dychmygu syndod y gŵr parchus, ac yn wir ei sioc, pan ddangosodd y wraig iddo y gwydr deuben a ddefnyddir i amseru berwi wy - ond un mwy lawer na hynny - yn llawn o lwch llwyd.
Bu Robert Jones yn fewnwr i Gaerdydd a 'doedd e ddim yn meddwl bod hyn yn sioc fawr.
Ces sioc o weld heidiau o fechgyn bychain croenddu, rhai mor ifanc â saith mlwydd oed, yn byw ar y strydoedd, yn cardota, a deifio ar y sgraps diangen oedd yn cael eu taflu allan gan y gwerthwyr ffrwythau.
Sylwais y tro diwethaf y bu+m yn Jamaica fod sioc aflerwch a budreddi a sbwriel y Trydydd Byd yn gwisgo i ffwrdd yn gyflym dro ben.
Felly, i arbed sioc i'r system, rhaid colli pwysau yn eich pwysau...
O weld yr hwsmon mewn ystum gweddi ar ganol llawr y gegin cafodd Pyrs gryn sioc a llithrodd y gist bren drwy'i hafflau a drybowndio i'r llawr.
Weithiau fe geir sioc fel pan enillodd y mezzo-soprano Guang Yang o China yn 1997.
Dychmygwch y sioc a ges i pan ddarllenais i erthygl am lyfr Chapman Pincher am yr "Apostles''(y grŵp o ysbiwyr yn cynnwys Blunt, Burgess a Maclean) mewn papur Sul ychydig o flynyddoedd yn ôl a gweld llun o'r dyn y bum i'n rhannu swyddfa ag o yn eu plith!
Cael golwg ar fy nghartref am y ddwy flynedd nesaf - wel dyna sioc.
Daeth y Cymry, nad oedd neb yn rhoi unrhyw obaith iddyn nhw, o fewn hanner at greu y sioc fwya mewn unrhyw gamp erioed.
Tipyn o sioc i Alice, oedd wrthi'n llyncu asbrin ac yn mwydo'i thraed yn y gawod, oedd clywed y myllio mwyaf erchyll yn dod o'r stafell wely.
Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir cyn hir yn sioc ac yn siom i'r rheini ohonom sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg.
Cyn pen hir fe fyddech wedi hen alaru ar weld prynwr ar ôl prynwr yn cilio oddi wrthych dan regi a cheisio cymryd arno nad oedd newydd gael sioc ei fywyd.
Fe gafodd pawb sioc pan briododd e Luned - er nad oedd neb yn i beio hi am gadw tŷ iddo fe.
Sioc y diwrnod wedyn, fy nychryn fy hun wrth ildio'r un fath i'r gelyn.
'Ond pan dda'th y llythyr o'dd e'n dal yn dipyn bach o sioc.
Er cefais dipyn o sioc hefyd.
Mae ambell berson mwy sensitif na i gilydd wedi cael ei daflu i'r llawr fel pe bai sioc drydanol wedi mynd drwyddo.
Mi fydden sioc enfawr a dweud y gwir, sen ni yn ennill, meddai Andrew Jones, chwaraewr disgleiria Cymru yn eu buddugoliaeth yn y rownd ddiwetha yn erbyn Sir Oxford.
Hedfannai ei gwallt yn gudynnau brith o gylch ei phen, fel petai newydd gael sioc drydan, ac roedd ei chap nos lês wedi ei luchio'n ôl yn gam ar gefn ei phen gan y mwng gwyllt.
Cafodd y gymuned gyfan sioc pan aeth Stan i fusnes gyda Reg Harries a phrynu Pwll Bach.
Pan gyrhaeddwyd harbwr Glan Morfa roedd sioc arall yn aros yr hogia.
Sioc y lladd.
Credai'r prifathro i'r fellten ddigyn i'r ddaear yn ymyl yr ysgol ac i dipyn o'i grym fynd i waith metel y rheiddiaduron gan beri iddo neidio ar ei draed yn bur sydyn mewn sioc.
Ond, rhywfodd mae yna rywbeth yng nghefn fy meddwl sy'n gwrthod derbyn nad oes hedyn o wirionedd yn y stori, ac rwy'n dal i led-gredu bod rhai dihirod a ddygodd gar yn y Drenewydd tuag ugain mlynedd yn ôl wedi cael yfflon o sioc wrth fynd i chwilio'u hysbail...!
Cafodd sioc ei fywyd.
Leeds United gafodd y sioc fwyaf - y tîm o'r uwch-adran yn colli, 3 - 2, ar ôl amser ychwanegol yn erbyn Tranmere Rovers.
Cafwyd sioc fwya rownd gynta Cwpan Lloegr yn Nuneaton neithiwr wrth i'r tîm cartre, sy'n chwarae yn y Cynghrair Conference, guro Stoke o Ail Adran Cynghrair y Nationwide.
Nid wyf am ddatgelu'r hyn a ddigwyddodd ond, yn sicr, roedd yn annisgwyl ac yn dipyn o sioc.
sioc o weld ei lun ar y newyddion, a gwaredu wrth feddwl be oedd y creadur byrbwyll wedi'i ddweud rwan, nes i sioc y cyhoeddiad ddyrnu eich gwynt.
A hefyd, sioc gweld y peth yn cael ei ladd o flaen ein llygaid ni, oedd yr un peth.
Fe wahaniaethir rhwng y teip yma - y damweiniol - a'r teip patholegol a achosir gan nifer o ddoluriau, fel coma oherwydd is thyroidedd, trawiad enbyd o'r galon, gostyngiad yn lefel y siwgr ar ôl i berson newynog yfed gormod o alcohol, sioc, a gostyngiad ym mhwysedd y gwaed o ganlyniad i ddamwain neu ddolur heintus fel Newmonia, ac yn bennaf mewn person sy'n wael iawn oherwydd gwenwyniad gwaed.
'Y sioc oedd o gynta, wrth gwrs,' meddai pawb.
Er bod y math yma o orfoledd wedi digwydd lawer tro yn ystod diwygiadau'r gorffennol, yr oedd bellach yn beth dieithr iawn ac yn gryn sioc i fwyafrif yr addolwyr.
Yna, y newid sydyn o'r 'newyddfyd' i'r 'cynfyd' (gyda'r odl yn cryfhau'r sioc) a'r symud, yr un mor ddisymwth, o un modd ar synhwyro i un arall: o'r glust i'r tafod.
Os ydych chi yn nôl o eich hunan gewch chi letric sioc ac wedun fyddwch chi wedi marw ac nath hi ddweud dim chwara hefo barcud wrth y weiran na cicio pêl i mewn i'r twll yn yr lon pan mae dyn Manweb yn gweithio neu gewch chi eich lichio ym mhell i ffwrdd ac wedun cafodd pawb bresant; gan Paul de-Waart.
Ond bu'n gryn sioc iddo ddeall mai hynny'n union oedd bwriad y ddau.
Fe allem gael sioc rywbryd o sylweddoli fod yna neges oddi wrth Dduw yn dod o siwt annisgwyl o fodern.
Sioc gweld y peth yn digwydd, y ffeithiau'n cael eu datgan yn oer, glir, mor blaen â mwyafrif seneddol.
Mae e'n whariwr arbennig ac o ystyried bod e'n gapten y Tîm A roedd hynna yn sioc.
Aeth Derek ati i geisio darganfod pwy oedd ei dad a chafodd ef a'i hanner chwaer, Carol, sioc fawr wrth ddarganfod mai'r cyn-gynghorydd Herbert Gwyther oedd ei dad.
Cafodd Jason sioc o ddarganfod fod Graham wedi ceisio cadw mewn cysylltiad ond fod Diane wedi celu'r cwbl.
O'dd hyn ddim yn sioc fawr.
Sioc ffrind yn digwydd sôn yn ddidaro - 'O, wyddat ti ddim?
ac mae'n debyg i'r sioc o gael 'i yrru o 'ma fod yn ddigon iddo fe.
Sioc oedd gweld pa mor bell oddi tano yr oedd y traeth.
Cafodd sioc yng ngwir ystyr y gair.
'Roedd ymddiswyddiad David Pickering, hefyd, yn dipyn o sioc.
'Roedd India'n sioc i'r system, mae'n rhaid cyfadde - yn ymenyddol, yn emosiynol, ac yn gorfforol.
Sylweddolodd hyn, ac aeth yn ôl at 'i ffrindiau, y disgyblion, a dw i'n siwr fod Tomos, er gwaetha'r sioc ofnadwy o golli'r Iesu, 'i fod am glywed gan y disgyblion eu bod nhw wedi gweld yr Iesu atgyfodedig.
roedd y newyddion am betty yn sioc i ni i gyd.
Yn amlwg felly, roedd y cyrch diweddar yn sioc i Lydaw.
Mor fawr oedd y sioc.
'Mae'n sioc fod Huw Harries o Benybont ddim wedi ei gynnwys.
'Roedd pryddest Cynan yn sioc i ddarllenwyr barddoniaeth Gymraeg.
Ail sioc y daith oedd clywed record o Hogia'r Wyddfa ar y radio - sioc anferthol.
Bydd ei golli'n sioc i'w weddw a chyfeillion y Gymdeithas Gymraeg yn y Trallwng.
Cafodd Matthew Stevens, o Gaerfyrddin, sioc yn rownd yr 16 olaf ym Mhencampwriaeth Snwcer Liverpool Victoria neithiwr.