Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siocled

siocled

Y Sbaenwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i ddwad i wybod am siocled ac yr oedd o'n drît oedd yn toddi yng nghega rheini ymhell cyn i neb arall gael eu dwylo arno fo.

Mi fydda aelodau eraill llys Montezuma, hwythau, yn yfed rhyngddyn nhw lond dwy fil o gwpanau aur o siocled.

Fel hyn, rwyn siwr, y teimlai Charlie wrth fynd i mewn i'r ffatri Siocled - ond hen ffatri bop yw hon yn y Porth, Rhondda.

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Yn yr ardd roedd ffynnon o ddŵr lemwn, a blodau o losin a siocled a'r holl ddanteithion yr oedd Idris mor hoff ohonynt.

Tra medrwch chi a fi fanejio'n go lew ar chwe bar o siocled yr wythnos y mae'r Siocaholics hyn yn dibynnu ar siocled am y pumed ran o'u calori%au.

Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.

Dewisodd y coch a hefyd prynodd focs o siocled ac angel plastig.

Amser cinio cafwyd cyfle i dynnu'r sgis, datod yr esgidiau, sythu 'nghoesau, ac, wrth gwrs, diod poeth o 'Le Mumba' - siocled poeth a brandi!

'Rwy'n cofio bwyta siocled...

Yn gyfrifol am symud llawer iawn o siocled y byd yma, i gyd ei hun, mae Joan Steuer sydd, yn rhinwedd ei swydd yn Olygydd y cylchgrawn Americanaidd chwarterol, Chocolatier, yn bwyta pum pwdin ac hyd at dri phwys o siocled bob dydd am dair wythnos bob chwarter fel rhan o'i gwaith ymchwil.

Ond efo hanner can cwpanaid o siocled yn ffrydio drwy'i berfedda fo mi fyddai Gruff druan fwy ar i draed nos nag ydio'n barod mae gen i ofn.

Mae siocled, hefyd, medda Huw, yn cynnwys theobromine sy'n cynhyrchu endomorffinau yn yr ymennydd fedar eich cadw chi i fynd yn well na bagiad chwarter cant o brūns.

Mae rhai ohona ni yn dal yn ddigon hen i gofio'r dyddiau du hynny pan oedd y goleuadau yn diffodd fesul un ag un drwy Brydain ben-baladr - a'n pobl ifanc, goreuon eu cenhedlaeth yn aml, yn gwneud dim byd mwy difrifol yn y tywyllwch dudew hwnnw na blasu siocled.

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Wedi darganfod dull o wneud rhyw fath o hufen iâ - rhewi llefrith a ffrwythau neu fisgedi siocled wedi eu cymysgu.

Wedi ffraeo efo Robat John a Sharon roeddwn i a doeddwn i ddim eisiau rhannu'r siocled efo nhw felly fe'i cuddiais o nes y cawn i gyfle i fod ar fy mhen fy hun.

Yn y bore daeth Siôn Corn yr ysbyty heibio i bawb, ac i'r rhai a gollodd eu baban yr oedd ganddo hances boced, ychydig o siocled a gair o gydymdeimlad a chysur.

Yn ôl yr hogyn lleiaf acw, sydd at ei fogail mewn prosiect TGAU ar y pwnc, mae siocled yn cynnwys cemeg o'r enw Phenylethylamine sydd yr un ag y mae'r ymennydd yn ei ryddhau yn naturiol pan yda ni'n syrthio mewn cariad.

Tra bo'i rieni yn casglu llen a llafar plant dechreuodd Robert Opie, yn fachgen ifanc, gasglu papurau losin a siocled, potiau iogwrt, a bocsys bwyd brecwast.

'Nôl yn Ouromieh, daeth pwysigyn lleol ar y bws a rhoi darn o siocled yr un i ni 'fel iawndâl am yr holl flerwch.' Dyna'r unig arwydd o garedigrwydd a gawsom gan ein meistri.

Prynodd guazi (hadau blodyn haul), bisgedi blas chilli, siocled a phapur i Kate a finnau, a rhyw fath o hufen iâ od wedi ei wneud o ffa soya.

Mewn siocled.

Mae o'r un lliw yn union â'r siocled hwnnw yr anghofiais bopeth amdano fo, Wedi ei gael o gan Anti Jini am ei helpu hi yn tŷ roeddwn i ar ôl imi ddianc yno un bore.

Yr oedd siocled hefyd, yn beth mor effeithiol i roi cic yn nhin cyneddfau rhywiol pobl y penderfynodd y Sbaenwyr beidio â dweud wrth neb arall amdano fo ac fe fuo nhw'n croesi'r moroedd efo fo am flynyddoedd heb i neb arall sylweddoli beth yn union oedd o.

Ie, dyna chi, siocled yw'r testun mae Meira yn myfyrio drosto y mis hwn...

Mae'n siop sy'n gwerthu amryfal nwyddau, pethau da, papurau newydd, caniau Côc, cardiau Pen-blwydd, fferins siocled...

Fel Nain Rhoscefnhir ers talwm, rhen dlawd, mae gen innau ffydd mawr mewn siocled.

Roedd gwenwyn yn y siocled 'na, ond trwy ryw lwc fe ddiferodd o'th geg wrth i ti ddisgyn, neu fe fyddai ar ben arnat erbyn hyn.

Newyddion gwell ydi fod gwyddoniaeth fodern wedi darganfod nad oedd yr hen AStecs a Sbaenwyr yna ddim yn siarad cymaint â hynny o lol wrth ddweud mai siocled ydi'r petrol sy'n mynd i roi nwydau rhywun mewn ofyrdreif.

Gallai estyn y blodyn yn hawdd, a heb oedi rhagor, tynnodd Idris y petalau siocled a'u llarpio'n awchus.

Pan ymwelodd Cortez Fawr â llys y Brenin Montezuma - un arall fydda'n gorfod byw heb ei swpar tasa fo'n byw yn tū ni - gwelodd fod hwnnw'n yfed hanner can cwpanaid o siocled y dydd.

Achos y mae yna lot fawr mwy o siwgwr mewn siocled plaen - neu byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi bron â bod yn amhosib ei fwyta fo am 'i fod o mor chwerw!

Y newyddion drwg i'r rhai hynny sy'n trio cadw llygaid ar eu siap ydi mai yn y siocled drutaf y mae'r lleiaf o galori%au achos bod ynddyn nhw fwy o gacoa a llai o siwgwr.

Y Maiaid, yr Astecs a'r Taltecs yn Ne America ydi'r rhai cynta y gwyddom ni amdanyn nhw i ddarganfod rhinwedda siocled.

Mae rhai plant yn mynd â chacennau siocled i'r ysgol i'w rhannu a'u ffrindiau.

Roeddet ti'n gwybod yn iawn y bydde'r bêl wedi aros petaet ti i fod i fwyta'r blodyn siocled.

Yn wir, gallodd rhedwyr pellter hir ddal i fynd am ddiwrnodau ar ddeiet o ddim ond siocled ac aspirin.

Ond yna, fel pe bai'n ateb ei broblem, beth a welodd yn ysgwyd yn y gwynt yr ochr arall i'r clawdd ond planhigyn, a'i flodyn yn un rhosyn mawr o betalau siocled.

Mae rhai yn mynd gymaint dros ben llestri nes eu bod nhw, i siocled, yr hyn oedd Dafydd ap Gwilym i ferchaid, ac yn byw ar y stwff i bob pwrpas.