Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siomedig

siomedig

Siomedig yw dathliadau'r wyl yma ym Mhatagonia o gymharu â Chymru i ddweud y gwir.

I ymosodwr Wrecsam, Lee Trundle, ddaeth yn seren dros nos ers ymuno â Wrecsam o'r Rhyl, mae'r tymor wedi gorffen yn siomedig.

'O'n i braidd yn siomedig wrth gwrs ar ôl bod 25 - 6 ar y blaen ar un adeg,' meddai.

Roedd heddiw wedi bod yn siomedig iawn, a dweud y lleiaf.

I mi, felly, dyna pam fod yr albym yma mor siomedig.

Ond siomedig at ei gilydd a fu'r ymateb ymhlith corff mawr ein haelodau eglwysig.

'Tri digon siomedig a gychwynnodd ar hyd y llwybr.

'Ie, ti sy'n iawn,' cyfaddefodd Bleddyn yn siomedig.

Yr oedd bechgyn yn siomedig âu perfformiade cynnar, yn enwedig yn yr ail gêm yn erbyn Ontario, meddai.

Roeddwn yn siomedig nad oedd dim Cymdeithas Gymraeg yn Cape Town er bod cryn dipyn o Albanwyr a Chocnis yno.

Mwy siomedig oedd yr ymateb yn y sector uwchradd, heb fod yr un ymgais yn cyrraedd teilyngdod.

'Mae wedi bod yn dymor siomedig - mae'r haf i ffwrdd gynnon ni a rhaid i ni weithio'n galed ac edrych ymlaen i'r tymor nesa.

Mae Caerdydd yn siomedig gyda phenderfyniad Undeb Rygbi Cymru i wahardd eu blaen-asgellwr Dan Baugh am ddeuddeg gêm am sathru yn stod y gêm yn erbyn Abertawe y mis dwetha.

Yr hyn sy'n siomedig braidd ynglŷn â'r adroddiad yw ei ymdriniaeth, neu'n hytrach ei ddiffyg ymdriniaeth, â chwestiwn Senedd i Gymru.

Fe gawson nhw lawer mwy o gyfleon ac fe fyddan nhw'n siomedig â safon cyffredinol eu gorffen.

Siomedig dros ben oedd cyfraniad Gwynedd at wella'r sefyllfa.

Siomedig oedd ymateb Ysgrifennydd y Cynulliad i'n argymhellion (ystyriai arweiniad o'r canol fel ymyrraeth ym musnes yr awdurdod addysg lleol) er y cawsom addewid y byddai'n eu trafod gyda swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd ag addewid o gyfarfodydd pellach yn y dyfodol.

Y mae Cymdeithas yr Iaith yn siomedig gyda'r modd y datganodd Dafydd Elis-thomas ddydd Gwener yn Eisteddfod yr Urdd nad oedd angen Deddf Iaith Newydd a bod digon o ewyllys da at yr iaith y dyddiau hyn.

Er ei fod yn ymddangos yn gryn gaffaeliad siomedig, ar adegau, yw y Geiriadur Idiomau o safbwynt y rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg.

"Ma gin i ishio llonydd hefo nghinio." Trodd y dyn canlyn ceffyl o'r swyddfa'n siomedig a mynd yn ôl at ei waith wedi'r derbyniad swta yma.

Roeddwn i'n siomedig iawn ynddyn nhw, meddai.

Siomedig oedd yr ymateb cyffredinol i berfformiad tîm Rygbi Undeb Cymru yn erbyn Eryrod yr Unol Daleithau ddydd Sadwrn.

Talodd am ei hur ac ychwanegu cildwrn bach crintach i'r gyrrwr siomedig, gan gofio'i addewid iddo'i hun nad afradai mo'i arian hyd nes sicrhau bod ganddo ddigon o foddion i ddychwelyd adref yn ddiargyfwng.

'Ond yr oedd yn siomedig i gael hanner cynta fel yr un gawson ni.

Gwilym Owen (colofn gas Golwg) yn dweud mai ymgyrchwyr y Sianel oedd pobl mwyaf siomedig diwedd y degawd.

Yr unig gwyn sydd gennyf yw fod y darluniau at ei gilydd yn siomedig ac yn ymddangos braidd yn gyntefig o ystyried fel y mae crefft ffotograffio wedi ei pherffeithio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd y dorf o 4,786 yn siomedig, a'r dyfarnwr yn waeth.

Doedd o'n gwybod dim am y gors, ond mae pawb yn yr ardaloedd o gwmpas yn gwybod amdani." Y noson honno, yr oeddynt braidd yn siomedig - i feddwl bod y chwilio drosodd cyn gynted ag y daethant hwy i'r bwthyn ar eu gwyliau.

Noson Hyfforddi: Dywedodd Meira Roberts, y Swyddog Datblygu, ei bod yn siomedig ar y nifer a ddaeth i'r Noson Hyfforddi Swyddogion a gynhaliwyd yn Ysgol Y Felinheli.

Ar ôl dechrau da yn eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Gaerwrangon, siomedig oedd perfformiad Morgannwg yn Sain Helen ddoe.

Yr oeddwn yn siomedig ofnadwy gweld y Llythyr.

Dywedir fod William Jones yn siomedig nad oedd dim llyfrau ymhlith yr ysbail ac mai'r cwbl a gafodd oedd siswrn.

Braidd yn siomedig oedd gweld dwy sengl newydd y grwp ond yn crafu eu ffordd i'r deg uchaf yr wythnos diwethaf ond does yna ddim amheuaeth er hynny y bydd eu chweched albym, Know Your Enemy, yn mynd yn syth i rif un yn siart y recordiau hir.

Ond penwythnos siomedig fu hi'n gyffredinol i glybiau Cymru yng Nghwpan Lloegr.

Braidd yn siomedig yw'r hyn sydd ganddo ar Penri.

Daeth ac aeth y tren a oedd yn anghysurus o lawn, er annifyrrwch i Hector a fethodd a chael sedd gyfleus yn nesaf at y ffenestr eang, er iddo gael cip siomedig ar berllannau Caint.

Roedd hi'n gêm siomedig ar y cyfan.

Ymateb Robyn Williams, Rheolwr Ysbyty Dewi Sant "Dwi'n siomedig.

Fel un na welodd ond cwta ddwy bennod o'r gyfres Big Brother fydda i ddim yn siomedig o weld y gyfres wirion yn dirwyn i ben.

Ond er iddynt dreulio dwyawr digon anghysurus yn swatio a gwylio yng nghefn y ffynnon ni welsant undyn byw a thri digon siomedig a drodd eu hwynebau tuag adref fel y teimlent y dafnau cyntaf o law yn disgyn ar eu talcennau.

Yr oedd yr ymateb i'r llythyr, yn ôl y golwg, yn siomedig dros ben; yn bersonol nid wyf wedi clywed iddo ymddangos mewn unrhyw bapur.