Cafwyd sioe sionc ac ysblennydd yn cynnwys eitem gan pob dosbarth a chyfraniad gan bob plentyn yn yr ysgol.
Cymeriad eitha sionc a diflewyn ar dafod yw'r hen wraig ac mae yna ddigon o hiwmor yn y ddeialog rhyngddi hi a'i hwyres.
Dychwelodd Stevens yn sionc i Sheffield neithiwr ac fe ddylai fod yn dawel hyderus ynglyn â'i obeithion yn y gêm.
Camodd y capten yn sionc fel pe wedi cael rhyw adnewyddiad corfforol.
Tasgodd cudynnau o wallt gwinau hardd o'i phen, toddodd ei sbectol i ddangos pâr o lygaid sionc, esmwythodd ei chroen fel cotwm dan hetar, diflannodd y crychau, a daeth rhwy wytnwch newydd i'w chorff.