Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siroedd

siroedd

Rhain yw'r union bobl sy'n ffurfio'r mwyafrif o gyrff llywodraethol sefydliadau megis Coleg Ceredigion a'r CCTA yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi methu yn eu cyfrifoldebau i siroedd gwledig Cymru.

Os mai anfoddhaol ydoedd y cychwyn ym Medi fe newidiodd pethau erbyn mis Ebrill pan aeth tîm y Sir i Aberystwyth i siarad yn erbyn gweddill Siroedd Cymru a dychwelyd yn bencampwyr gyda'r cwpan.

Un o chwaraewyr Pacistan y mae Robert Croft yn ei adnabod yn dda yw'r bowliwr cyflym Waqar Younis - oedd yn aelod allweddol o dîm Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd ym 1997.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Mewn siroedd megis Dyfed, lle mae cyfran uwch o dir da ceir mwy o bwyslais ar gnydau a gwartheg godro.

Maes ail ran yr Adroddiadau yw siroedd Brycheiniog, Aberteifi, Maesyfed a Mynwy.

Ar ein ffordd adref aethom i Lanelwedd er mwyn imi annerch cyfarfod o bwyllgor siroedd Brycheiniog a Maesyfed o'r Undeb.

Cyfeiriodd Symons hefyd at anniweirdeb honedig y gwragedd yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed a Cheredigion:

Talaith trydedd ran yr Adroddiadau yw gogledd Cymru, siroedd Môn, Caernarfon, Dinbych, Fflint, Meirionnydd a Threfaldwyn.

Yr adeg honno ymestynnai o sir Benfro i rannau o siroedd Trefaldwyn a Henffordd, gan gynnwys o fewn ei ffiniau bron hanner arwynebedd Cymru.

Daeth Symons i'r casgliad, parthed siroedd Brycheiniog, Ceredigion a Maesyfed, mai isel iawn oedd safon moesau.

Fel y mae pawb yn gwybod, y broses o ddiwydiannu yn siroedd Morgannwg a Mynwy yn arbennig a oedd yn gyfrifol.

Yr oedd golwg lewyrchus ar Lundain a'r canolbarth a siroedd de-ddwyrain Lloegr tra oedd y drefedigaeth Gymreig yn llusgo byw dan amrywiaeth o enwau a'i galwai yn bopeth ond yn famwlad cenedl.

Cyhoeddwyd canllawiau ar arfer dda yn y siroedd.

Sylwodd yn achos siroedd Brycheiniog, Maesyfed ac Aberteifi, ....

Yn yr Adroddiad ar siroedd Caerfyrddin, Morgannwg a Phenfro mynnodd Lingen fod y merched bron yn ddieithriad yn anniwair -

Bydd siroedd y Bencampwriaeth Griced yn mynd i Lords heddiw i weld faint o arian fyddan nhw'n ei dderbyn y tymor nesaf.

Mae hyn yn dangos yn glir y gwendidau sydd yn y sylfaen gyflogaeth yng Ngwynedd o'i chymharu â siroedd a rhanbarthau eraill.

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cychwyn ei gêm gynta ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Northampton heddiw.

Mae Morgannwg yn dal ar waelod Ail Adran Pencampwriaeth Criced y Siroedd ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Essex ar Erddi Sophia ddoe.

Dengys y casgliad mawr hwn fod ganddo lawer o noddwyr yn ei fro ei hun, ond ei fod hefyd yn arfer clera trwy Gymru gyfan, yn enwedig ar hyd y gororau yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed.

Gan fod yr ymateb cychwynnol mor brin gan ysgolion cynradd ail iaith, fe ddosbarthwyd rhagor o ffurflenni gan y cydlynwyr mewn rhai siroedd yn y de yn ystod yr wythnos wedyn.

Yn awr, wele'r Awdurdod Iechyd yn gwahodd ymgeiswyr am swyddi holl-bwysig ac allweddol Prif Weithredwr yr Awdurdod, a Phrif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans dros siroedd Gwynedd a Chlwyd.

Bydd Morgannwg, sydd ar waelod ail adran Pencampwriaeth y Siroedd, yn dechrau ei gêm yn erbyn Sir Gaerwrangon yn Sain Helen heddiw.

Arwyddo cytundeb i sefydlu Iwerddon Rydd o 26 o siroedd yn y De.

CBAC(UI) Cefnogi datblygu hyd at gamera barod cynlluniau yn siroedd Gorllewin Morgannwg a Chlwyd drwy CBAC.

Cafodd Morgannwg, sydd ar waelod ail adran Pencampwriaeth y Siroedd, ddechrau da i'w gêm yn erbyn Sir Gaerwrangon yn Sain Helen.

Ganrif yn ddiweddarach eto, ceir cywydd gan Ddafydd Benwyn i siroedd Brycheiniog, Morgannwg a Mynwy, a hynny ar ol i ryw fardd 'Diddysg, digerdd a diddim' o'r enw Siancyn ei gyffroi.

Dechreuodd pethau'n dda i Forgannwg yn eu gêm gynta yn Adran Gynta Pencampwriaeth y Siroedd.

Mae amrywiaeth mawr yn y gwahanol siroedd a rhaid disgwyl am ragor o fanylion mewn perthynas â gweithredu gofynion y Gymraeg cyn y gellir cynnig cyngor ar faterion polisi sy'n berthnasol i Gymru gyfan a siroedd unigol.

Er i rai helyntion godi yn y De - yn hen siroedd Penfro a Cheredigion ac yn Nyffryn Tywi, er enghraifft - gyda'r ardaloedd o gwmpas Dinbych (cartref Thomas Gee) y cysylltir y Rhyfel Degwm yn bennaf.

Nid yng Nghymru'n unig y cafwyd y math yma o amgylchiadau cymdeithasol a'u canlyniadau alaethus ar addysg - dyna oedd profiad cyffredin bron pob un o'r broydd ffatri%ol neu lofaol trwy Loegr benbaladr, a hynod o debyg oedd y geiriau a ddefnyddid yn adroddiadau'r arolygwyr ysgolion i'w disgrifio hwythau - broydd fel swydd Stafford a'r 'Black Country' drwyddynt draw, a rhannau o swydd Durham a siroedd gogledd Lloegr, ac wrth gwrs, trefi mawrion a dinasoedd Lloegr.

Rhydd y Penwyn foliant i bob un o'r siroedd yn ei thro, a dywed am ei sir enedigol fod 'mawr gynnal' yno, ac aur ac arian 'Yno hefyd yn hafog'.

'Mae'r gêm hon wedi bod yn dda i mi', meddai, 'a theimlaf ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i roi rhywbeth yn ôl iddi.' Ei gariad at y gêm a'i rhwydodd i rengoedd dethol dyfarnwyr Pencampwriaeth y Siroedd, gan ddilyn esiampl y ddau Gymro chwedlonol, Dai ac Emrys Davies.

Gwelir fod y ganran o dir pori da yn lleihau mewn siroedd megis Gwynedd a Phowys, lle ceir cyfran uchel o dir mynyddig o radd isel.

Gan mai drwy'r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol Sirol y sicrheir cyllid ar gyfer gwaith plant fel arfer, ceir problem neilltuol mewn siroedd sydd â nifer fawr o lochesau, efallai bump neu chwech yn hytrach na dim ond dwy neu dair.

Mae swyddogaeth gymunedol yr ysgol bentref wedi dod yn bwysicach yn siroedd Dyfed yn ystod y ddegawd ddiwethaf oherwydd dirywiad yr iaith yn y cymunedau ehangach a dyfodiad y polisi iaith newydd i ysgolion y siroedd.