Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sisial

sisial

Llenwaist ein clustiau â seiniau'r greadigaeth - sisial ffrwd ar gerrig, trymru'r môr ar draeth, trydar yr adar, clec y daran ac amrywiol gynganeddion y gwynt.

Dyma nhw'n sisial eu ffordd drwyddi, a ninnau'n clywed ambell enw, '...

Dim ond distawrwydd y coed pin, sisial y nentydd bychain, disgleirdeb yr eira ac ol troed anifeiliaid bach ynddo, lliwiau cyfoethog yr haul a godidowgrwydd yr olygfa.

O sôn am sisial a siarad, dylid egluro bod gan Doctor Jones ei Gymraeg arbennig ei hun, gyda'i reolau ei hun wrth dreiglo geiriau, a'u camdreiglo'n ogystal.

Dyma nhw'n sisial ymlaen wedyn - 'buwch ...

Rhyw fath o sŵn suo neu sisial isel.

Peidiodd y sisial.

Torrodd sisial ar draws y tawelwch.

Sgwrsio'r gynulleidfa'n troi'n sisial ac yna'n ddistawrwydd disgwylgar.

Gallwn glywed y doctor yn stwna y tu ôl i'w sgrin a'i arfau'n tincial wrth iddo ddethol o'i ffiolau a'i chwistrelli a sisial yn ddistaw wrtho'i hunan.

Ond y foment nesaf, byddai wrthi'n sisial cyfres o ddoethinebau wrtho'i hunan.

Fe'i clywn wrthi'n anadlu ac yn sipian, ac yna, er syndod, dyma'i glywed yn sisial (nid wrthyf i, ond wrtho'i hunan) y sibrydion hyn a gofiaf yn eglur hyd heddiw: .

Gweryru a sisial, bargeinio a bloeddio a mân siarad yn llythrennol gymysg â llawer o falu awyr.