Yn ddiweddar gwelwyd y pwyslais yn symud fwy tuag at fwydydd iachusol - llai o fraster, llai o halen, llai o siwgwr, mwy o fwydydd iachusol.
Ymlaen wedyn trwy filltiroedd sgwâr o gaeau siwgwr a'r dail gwyrdd yn disgleirio efo galwyni o ddŵr yn cael eu lluchio drostynt trwy bibau anferth o Lyn Victoria.
Dydi fy chwaer yng nghyfraith ddim yn credu mewn rhoi siwgwr mewn teisan, ac mi wyddost, neu mi fedri ddychmygu, be' ydi teisan gwsberis hefo dyrnaid o halen ynddi hi yn lle siwgwr.
Rhoddodd ddwy ddisprin a dwy fogadon yn yr Ofaltîn a'u cymysgu'n dda efo lot o siwgwr.
Dydw i ddim yn broffwyd ond rwyn darogan y bydd y Frenhiniaeth rhyw ddydd a ddaw yn melltithio y penwythnos diwethaf wrth i'r holl ddalennau o siwgwr cyfoglyd eplesu - fel maen nhw'n siwr o wneud - yn fustl.
Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.
'Roedd siwgwr yna arfer costio punt y kilo, dyweder, ond rwan mae kilo yn costio can punt!
Os mai siwgwr fel arfer sydd yng nghnwd y ffrwythau, gwenwyn yn aml sydd yn yr hâd.
Achos y mae yna lot fawr mwy o siwgwr mewn siocled plaen - neu byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi bron â bod yn amhosib ei fwyta fo am 'i fod o mor chwerw!
Er bod yr Eglwys yn sgut yn erbyn y Cacao, criw o Leianod yn Chiapas oedd y rhai cyntaf i gymysgu'r Cacao efo siwgwr gan wneud y cachu carnero yn debycach i be ryda ni'n gwagio bocseidia ohono fo i lawr ein llwnc bob Dolig a phen-blwydd heddiw.
Y newyddion drwg i'r rhai hynny sy'n trio cadw llygaid ar eu siap ydi mai yn y siocled drutaf y mae'r lleiaf o galori%au achos bod ynddyn nhw fwy o gacoa a llai o siwgwr.
'Mae nifer helaeth o broblemau iechyd, yn amrywio o'r clefyd siwgwr i glefyd y galon, yn gysylltiedig â bod yn rhy drwm.
Y mae'r caeau India-corn a siwgwr a reis yn ymestyn allan filltiroedd o'r pentref ei hun - yn wir, cyn belled a'r pentref nesaf.
Ar lawr y dyffryn, ar ochr y ffordd, roedd y bwthyn bach rhyfeddaf a welwyd erioed - y waliau wedi'u gwneud o fara brith, y to o fara ceirch, a'r ffenestri o siwgwr candi.
Roeddwn i dan yr argraff fod newyn yn taro gwlad oedd heb fwyd i'w roi i'w phobl ond, ar strydoedd Mogadishu, roedd yna farchnadoedd yn gyforiog gan fwydydd o bob math; cig, blawd, bara, siwgwr, ffrwythau, llysiau, olew, losin hyd yn oed.
"chilenos" efo'i drol ychen i ddod â digon o flawa, siwgwr a kerosene i'r lampiau erbyn y tywydd mawr, ac mi goliaf yn dda yr adeg y crisis nad oedd posib cael y diwethaf a gorfod gwneud canhwyllau efo saim adref.