Bu pwyso mawr arnaf i'w gadael ym Mangor, ond parhâu ar fy siwrnai'n dalog a'r cyfrolau dan fy mraich a wneuthum.
Fyny ym mynyddoedd uchel Cwrdistan yng ngogledd-orllewin Iran oedd o', a'r siwrnai i gyrraedd yn un anodd.
Gall peilot gadw'i lwc drwy wagio'i bocedi ar y ddaear ar ôl glanio fel pe bai'n ail-gyflwyno aberth o ddiolch am gael siwrnai ddiogel.
Byddai'n siŵr o fod o'i gof yn meddwl am y tri ohonynt ar siwrnai mor bell hebddo fo.
Un o wrthwynebwyr y prosiect yw'r hanesydd lleol Dilwyn Miles a fu'n dadlau'n gryf nad oedd y siwrnai yn adlewyrchu'r sefyllfa yn Oes y Cerrig gyda'r cychod, er enghraifft, yn rhai llawer gwell na'r rhai a fyddai ar gael i adeiladwyr Côr y Cewri.
Ar ôl bwyta dyma ddychwelyd at y car i ail-gydio yn y siwrnai adref, ond pan ddaethant at y lle y gadawsant y car, nid oedd yno, ac ar ôl chwilio yn ddyfal trwy'r maes parcio a thrwy'r dref, nid oedd lliw nag arlliw o'r car yn unman.
Eto, mae peilotiaid a chriwiau awyrennau yn ofni defnyddio'r gair 'crach' na sôn am unrhyw ddamwain i awyren cyn cychwyn allan ar siwrnai.
Teimlai'n fwy siŵr o'i siwrnai erbyn diwedd y pryd.
Teimlai nad oedd yntau, chwaith, wedi cael siwrnai esmwyth drwy'r misoedd diweddar.
'Roedd Mary ei chwaer wedi priodi ac yn byw ym Mhenrhyn Terrace ac yno yn naturiol yr aed gyntaf i holi.Siwrnai sethug a gafwyd.
Roedd Carol wedi bod yn gyrru ar hyd y draffordd am dri chwarter awr cyn iddi gyfaddef wrthi'i hun mai Emyr oedd yn iawn ac mai ffolineb oedd ymgymryd â'r fath siwrnai hebddo fo.
Wedi cael siwrnai seithug, dychwelodd Rolf i'r Almaen.
Siwrnai fythgofiadwy, ond fe fynnodd Vesuvius ddial arnaf i fesur, nid yn unig drwy ddifetha f'esgidiau'n llwyr, ond hefyd drwy achosi cur yn y pen arteithiol i mi~
Dringodd yn flinedig i fyny'r stepiau gan gludo siwrnai o ddwr berwedig, wedi oeri, i'w ganlyn.
Mor wahanol iddynt hwy'u dwy mewn trowsus a'u gwalltiau'n flêr ar ôl y siwrnai hir.
fyddwn ni ddim yn gwybod popeth am arweiniad Duw ar ddechrau siwrnai.
Ar ôl cefnu ar drên Llundain - Caeredin, roedd yn rhaid cad trên yn perthyn i gwmni'r 'Highland Railway' ac roedd oriau i aros cyn bod hwn yn codi stêm i'w siwrnai.
Gwnewch yn siwr fod eich arolygwr profiad ysgol yn cael eich neges mewn pryd i osgoi siwrnai hir a seithug: y mae'n werth ei ffonio yn ei gartref/ei chartref i wneud yn siwr o hyn.
Mi âf oddi yma i'r Hafod Lom Er bod hi'n drom y siwrnai, Mi gaf yno ganu cainc Ag eistedd ar fainc y simne, Ag odid fawr mai dyma'r fan Y byddaf tan y bore...
Gwneud un siwrnai ddechrau'r mis a wnawn i'r arch-farchnad a cheisio cael digon o fwyd i bara am y mis, oni bai am fwydydd ffres fel bara a llefrith a chig.
Roeddwn wedi edrych ymlaenyn arw at fy ngwyliau sgio cyntaf a dyma fi ar gychwyn wythnos o brofiadau newydd ar ol siwrnai faith a phum awr o gwsg.
Serch hynny, yn groes i'r hyn a gredai'r mwyafrif o bobl, ychydig o garcharorion a fu farw ar fwrdd y llongau carchar a deithiai i Awstralia a 'does dim sail i'r cyhuddiad cyffredin mai diffyg cydymdeimlad ar ran yr awdurdodau fu'n gyfrifol am farwolaethau afraid yn ystod y siwrnai hir.
Bydd rhai o'r aelodau hynny o Gymdeithas yr iaith Gymraeg sy'n cerdded o'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd i'r Senedd yn Llundain fel rhan o'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd yn troi'r siwrnai yn daith noddedig.
Ni wyddai Hadad ddigon am ddaearyddiaeth ethnig a ieithyddol gogledd Affrica i synnu bod bagad o Dwaregiaid yn ymddangos fel hyn rhyw wyth can milltir i'r dwyrain o ffiniau eu cynefin, ac ni ddaeth fyth i ddeall y rheswm am y siwrnai.
Bu'n ddigon ffodus i gael teithio ar long y Capten Morfa Williams o Gaernarfon - un o Anghydffurfwyr selocaf y dref honno - a hwyliai o'r Traeth Mawr, a chael gofal caredig y Capten a'i briod gydol y siwrnai hir.
Aeth tri ohonom i chwilio am Iyfrau yn yr iaith honno yn y dref, ond siwrnai seithug a fu, er i un llyfrwerthwr ddal iddo werthu llyfrau Rwmaneg yn ddiweddar.
Does dim yn y byd yn rhoi mwy o foddhad i mi na chychwyn ar siwrnai hir a gwybod y gallaf ymgolli'n lân rhwng cloriau llyfr da.
Wrthi'n mwynhau'r profiad braf yma yr oeddwn pan ddaeth diwedd fy siwrnai yn hollol annisgwyl.
"Cofia fod gennym siwrnai faith ar ôl glanio!" Cefais drafferth i gerdded ar ganol y llwybr rhwng y cabanau.
Cafodd William Huws barch a godai oddi ar ofnadwyaeth weddill y siwrnai.
Yr oedd hi'n dawel hyd yn oed yn y car wedi iddynt ailgychwyn ar eu siwrnai.
Cyn cychwyn ar daith mor hir, mae amryw o'r adar yn bwyta'n helaeth i fagu digon o fraster i'w cynnal am o leiaf ran o'r siwrnai, e.e.
Siwrnai seithug heno eto, mi gewch chi weld,' meddai Gareth.
Cyn iddo gael amser i feddwl rhagor aeth Pierre ymlaen, Sut siwrnai gefaist ti?
Gwyddai Carol, yr eiliad honno, na fedrai wynebu gweddill y siwrnai heb Emyr, heb sôn am dreulio'r Nadolig a'i phenblwydd hebddo.
Taflwyd cerrig at y trên hwn ar ei siwrnai trwy Gastell Nedd, wedi iddo gychwyn o Gaerdydd am hanner awr wedi deg y bore.
Roeddwn yn gwisgo dillad caci yr Home Guard ac fe dalodd hyn imi ymhen rhai oriau wedyn ar fy siwrnai.
Yr anfantais fawr wrth ddewis bod yn ofalus yw y gall rhywbeth fod o'i le ar y camera neu ar lefel y golau a ganiatawyd i'r camera ac y byddai gweld hyn yn y fan lle tynnwyd y ffilm yn arbed siwrnai ddrud arall i'r wlad, pe bai hynny yn bosibl hyd yn oed.
Er mwyn trafaelu adref, nid oeddynt am gario'r corff yng nghefn y car gyda'r plant, ond roedd ganddynt babell, ac felly dyma benderfynu lapio'r hen fenyw yn y babell a'i chlymu ar y rack ar do'r car am y siwrnai adref.